Tirwedd ac Adfer Natur

Tirwedd ac Adfer Natur

Mae canllaw gwyrdd wedi cael ei gyhoeddi i greu syniadau ar gyfer gwella amgylchedd y dref.
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE) wedi cyhoeddi canllaw â darluniau i gyfleoedd ar gyfer mentrau Isadeiledd Gwyrdd yn Llangollen.
Yn dilyn cyhoeddiad AHNE 2021 ‘Adferiad Natur a Thirlun mewn Hinsawdd sy’n Newid’, mae’r canllaw newydd yn edrych ar gyfleoedd i ychwanegu at rwydwaith Isadeiledd Gwyrdd presennol Llangollen i reoli, lleihau ac addasu’r bygythiadau y mae newid hinsawdd yn ei achosi.
Wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol ac wedi’i arwain gan swyddog arweiniol newid hinsawdd AHNE, mae’r canllaw yn nodi chwe lleoliad poblogaidd yn y dref a sut fyddent yn elwa o ychwanegiadau Isadeiledd Gwyrdd.
Mae pob un lleoliad wedi cysylltu â’i gilydd gan lwybr Isadeiledd Gwyrdd sydd yn goridor gwyrdd heb draffig yn bennaf, a ddylai annog teithio llesol.

Mae’r canllaw yn edrych ar y sefyllfa bresennol yn y dref, yn nodi egwyddorion sylfaenol sydd eu hangen i ddarparu rhwydwaith cyfun o fannau gwyrdd a fydd yn elwa’r ecosystem leol ac yn argymell gwelliannau ar gyfer eu trafod a fyddai’n gwireddu amcanion yr Isadeiledd Gwyrdd.
Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau ecolegol megis plannu coed a dolydd blodau gwyllt a gwella cyfleusterau megis llwybrau a gwella arwyddion a systemau draenio cynaliadwy.
Dywedodd y Cyng. Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu a Chynllunio Lleol: “Mae’r cyhoeddiad gwych hwn yn nodi dechrau amcan hirdymor i greu Llangollen mwy cynaliadwy. Ar wahân i’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r AHNE, mae nifer o sefydliadau a busnesau lleol eisoes wedi dangos eu cefnogaeth ar gyfer y canllaw, gan gynnwys y cyngor tref a Chyfeillion y Ddaear Llangollen.

“Mae hefyd yn wych gweld Ysgol Dinas Brân yn rhoi ei chefnogaeth lawn gan fod cyfranogiad y genhedlaeth nesaf yn hanfodol.“Mae hwn yn gyfle gwych i ysgogi trafodaeth a gweithredu ar isadeiledd gwyrdd ar lefel cymunedol a lefel strategol, ac edrychwn ymlaen at glywed y canlyniadau a ddaw o’r ddogfen hon.”

Oeddech chi’n gwybod?

Mae fersiynau caled o’r canllaw hefyd ar gael o swyddfa AHNE Llangollen ac o swyddfa Parc Gwledig Loggerheads.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?