Lansiad Llyfr

Lansiad Llyfr

Roedd yn fraint cael mynychu lansiad llyfr arbennig ein Swyddog Awyr Dywyll, Dani Robertson “All Through the Night” a drefnwyd gan Siop Lyfrau’r Wyddgrug. Mae Dani, sy’n arwain y fenter Prosiect Nos sy’n ymwneud â phob un o’r tirweddau dynodedig yng ngogledd Cymru, yn eiriolwr brwdfrydig dros yr angen i ddiogelu’r byd rhag llygredd golau, y mae ei effeithiau niweidiol yn amlwg iawn yn sgil y lefelau uchel syfrdanol, fel yr eglura Dani.

Roeddwn i’n disgwyl clywed am yr holl ffyrdd y mae golau gormodol ac amhriodol yn cael effaith ar ein hamgylchedd a’n bioamrywiaeth, ac yn anffodus, ni fel pobl, ac yn bwysicach fyth, ein bywyd gwyllt yn gyffredinol, sy’n dioddef y goblygiadau. Mae Dani’n gwneud hyn gyda llygad manwl ac arbenigol, drwy ei harsylwadau personol hi yn ogystal â chyfeiriadau at farn wyddonol fyd-eang. Mae’r llyfr hwn yn cynnwys llawer mwy na hynny, gyda phenodau diddorol am y rhan bwysig y mae gwybodaeth am yr awyr uwch ein pennau wedi ei chwarae yn y gorffennol i helpu cymdeithas i addasu i newidiadau tymhorol, a rheoli eu bywydau a’u harferion amaethyddol yn unol â hynny. Mae hi hefyd yn disgrifio dylanwad diwylliannol a hudolus yr awyr, gan gyfeirio at arferion hynafol mewn perthynas â chytserau yng Nghymru, gydag enghreifftiau eraill o amgylch y byd. Mae hi’n disgrifio’r nifer uchel a chynyddol o ddarnau offer yn yr orbit o’n cwmpas ni sy’n ddatblygiad niweidiol arall.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r AHNE yn un o bum partner sy’n rhan o Brosiect Nos – Partneriaeth Awyr Dywyll Gogledd Cymru i helpu i greu’r ardaloedd mwyaf o awyr dywyll warchodedig yn y byd! Mae partneriaid eraill yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac AHNE Ynys Môn a Phen Llŷn.

O’n safbwynt ni, ei neges bwysicaf yw nad yw hi’n rhy hwyr i fynd i’r afael â’r math lleiaf adnabyddus ond mwyaf llechwraidd hwn o lygredd cyfoes, sy’n golygu nad yw nifer fawr o bobl yn cael cyfle i weld awyr glir a’i holl ryfeddodau. Rhywbeth y cyfeirir ato mewn llyfrau yw’r Llwybr Llaethog i nifer ohonom bellach. Yr ateb syml yw diffodd y golau! – ond mae llyfr Dani hefyd yn cynnwys camau dyddiol ymarferol y gallwn ni gyd eu cymryd i sicrhau fod y golau yr ydym yn ei ddefnyddio’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd – a’n galluogi i weld mwy o sêr ble bynnag yr ydym yn byw. Mae hon yn thema gyffredin drwy gydol y llyfr, a bod nifer y sêr sy’n weladwy i’r llygad noeth yng nghytser Orion yn brawf syml o ba mor dda neu ddrwg yw’r llygredd golau i bob un ohonom yn ein hardaloedd. Yma yng ngogledd Cymru, rydym yn ffodus iawn o gael awyr eithaf tywyll, ac mae Ynys Enlli wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol am ei hawyr dywyll. Mae Dani’n gweithio’n ddiflino ar hyn o bryd i gyflawni statws rhyngwladol ehangach ar gyfer yr ardal, gan gynnwys ein AHNE ein hunain. Yn ei llyfr, mae hi’n cydnabod y gefnogaeth ymarferol mae hi’n ei derbyn gan David Shiel, Hannah Marubbi, Gwenno Jones a Ceri Lloyd o’r AHNE – gweler y llun ohonyn nhw a Dani yn y digwyddiad lansio. “Mae ganddynt syniadau mawr ac yn awyddus i’w rhoi ar waith” meddai Dani.

Yr hyn sy’n arbennig am y llyfr yw safbwynt personol Dani wrth ysgrifennu, mae hi’n ein perswadio gyda’i hyder mewn modd diddorol iawn. Ganed Dani ar ystâd dai lachar iawn ym Manceinion, cyn symud gyda’i theulu i wahanol fyd ar arfordir gorllewinol Ynys Môn yn ifanc iawn, roedd gan ei thad ddiddordeb yn y byd naturiol, a dilynodd Dani’r llwybr hwn gyda rhyfeddodau’r awyr dywyll yn arwain y ffordd. Mae’r llyfr yn adrodd ei hanes personol mewn rhagor o fanylder a dyma thema sy’n ennyn diddordeb y darllenwyr drwy gydol y llyfr. Dyma eiriau Banquo yn nrama Macbeth gan Shakespeare: “There’s husbandry in Heaven; Their candles are all out”. Mae’n cyfeirio at awyr gymylog – mae llyfr Dani’n ymdrin â’r sefyllfa bresennol drist mewn perthynas â llygredd golau sy’n ein hatal rhag gweld y sêr yn yr awyr. Wnâi ddim dweud dim mwy – darllenwch y llyfr neu gwnewch nodyn ohono fel anrheg Nadolig gwych!

All Through the Night gan Dani Robertson – wedi’i gyhoeddi gan Harper North

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?