Parcio Coed Moel Famau yn cau

Parcio Coed Moel Famau yn cau

  • Moel Famau

Bydd prif faes parcio Coed Moel Famau yn cau am tua phythefnos o 7 Chwefror er mwyn caniatáu i goed sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum, a elwir yn glefyd y llarwydd, gael eu cwympo yn ddiogel.

Bydd y maes parcio yn ailagor ar y penwythnosau a dros wyliau ysgol yr hanner tymor. Mae meysydd parcio eraill, gan gynnwys Bwlch Pen Barras, yn parhau ar agor.

Mae disgwyl i’r gwaith gwympo coed heintiedig barhau yn y goedwig tan ddiwedd mis Mawrth. Er mwyn cadw pobl yn ddiogel, bydd llwybrau hefyd yn cael eu cau, gydag arwyddion clir arnynt. Hefyd bydd dargyfeiriadau a bydd mynediad cyfyngedig yn ystod y gwaith cwympo coed.

Mae’r coed wedi’u heintio â Phytophthora ramorum, neu glefyd y llarwydd. Maen nhw’n gorchuddio tua 26 hectar – neu faint 30 cae pêl-droed.

Ar ôl y gwaith, bydd CNC yn ailblannu ardaloedd y goedwig â choed amgen ar gyfer cynhyrchu pren. Bydd ardaloedd o gwmpas y maes parcio, y ffordd a’r llwybrau’n cael eu plannu â chymysgedd o rywogaethau llydanddail i helpu bywyd gwyllt a chyfoethogi’r amgylchedd er mwynhad pawb.

Meddai Aidan Cooke, sef Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwig i CNC:

“Diogelwch ymwelwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac mae hyn yn ein gadael heb unrhyw ddewis arall ond cau’r maes parcio i fod yn gwbl fodlon y gall gwaith cwympo coed ddigwydd yn ddiogel.
“Mae’n hollbwysig bod y gwaith cwympo coed yn mynd yn ei flaen er mwyn helpu i arafu lledaeniad y clefyd. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar weddill y goedwig ac ar ymwelwyr â’r safle.
“Rydym yn annog ymwelwyr i gadw at yr arwyddion cau a’r dargyfeiriadau sydd ar waith er eu diogelwch eu hunain. Bydd hwn yn safle gweithredol byw a allai fod yn beryglus os caiff arwyddion eu hanwybyddu.”
Er eu bod yn heintiedig, gellir defnyddio’r cnwd o goed llarwydd at sawl diben o hyd. Bydd y 4500 tunnell o goed a dynnir yn mynd i felinau llifio i’w defnyddio ar gyfer defnyddiau adeiladu tai, ffensys a phren ar gyfer tanwydd.

Oeddech chi’n gwybod?

Yn 2013, nododd arolygon fod clefyd y llarwydd yn lledu’n gyflym ar draws coedwigoedd Cymru, gan ysgogi strategaeth ledled y wlad i dynnu coed heintiedig i arafu’r ymlediad.

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Tai a Chymunedau, a Chadeirydd Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:

“Mae’n anffodus bod clefyd y llarwydd wedi’i gofnodi ym Moel Famau.
“Mae hwn yn waith sylweddol ond hanfodol, a bydd y Cyngor ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n gweithio’n agos iawn gyda CNC i leihau’r effaith a tharfu ar yr ardal boblogaidd hon.
“Rydym am ddiolch i drigolion ac ymwelwyr am eu dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.
“Byddwn hefyd yn cefnogi cynllun ailblannu i leihau’r effaith wrth symud ymlaen.”

Dadlwythiadau Defnyddiol

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?