Podlediad ‘Capturing the Castle’

Podlediad ‘Capturing the Castle’

Mae cyfres newydd o straeon wedi’u creu gan Sarah Baylis a’u cynhyrchu gan Sally Harrison dan y teitl – ‘Capturing the Castle: A Journey Through Time.’

Mae’r podlediad yn mynd â gwrandawyr am dro gyda Sarah, o Bont Llangollen at gopa Castell Dinas Brân, gan gerdded gyda’r nifer o ‘ysbrydion’ sydd wedi bod ar yr un daith dros y 200 mlynedd diwethaf.

Mae eu geiriau – dyfyniadau o lythyrau, teithlyfrau, papurau newydd, barddoniaeth a chân – wedi’u lleisio gan bobl leol a ymatebodd i alwad am gyfranwyr i ddarllen straeon y cymeriadau hanesyddol. Mae aelodau’r gymuned yn cymryd rhan hefyd, gan roi safbwynt modern o’r Castell gan bobl leol ac ymwelwyr. Mae’r recordiad yn cynnwys perfformiad o gerddoriaeth draddodiadol ar y delyn gan Tom Parry, a’r faled werin Fictoraidd, ‘Jenny Jones’, wedi’i chanu gan Jennie Coates.

Wedi’i osod dros amser, mae’r lleisiau amrywiol hyn yn cofnodi hanes y Castell – yn adrodd ei hanes o wahanol safbwyntiau, ac yn darparu sylwebaeth sy’n newid ar y tirlun darluniadwy a thwf twristiaeth hyd heddiw yn Nyffryn Dyfrdwy.

Yn ddiweddar, cafodd y recordiad 48 munud ei gynnwys yn arddangosfa gyffrous Dyffryn Dyfrdwy | Dee Valley yn Oriel Dory yn Llangollen, lle cafodd ei ail-chwarae mewn cornel fechan o’r oriel, ynghyd â chardiau post hanesyddol o’r ardal. Ar ôl yr arddangosfa, mae wedi bod ar gael fel podlediad ar Soundcloud ac ar wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Gallwch wrando ar y podlediad ‘Capturing the Castle’ (gwefan allanol). Mae hefyd wedi’i gynnwys mewn arddangosfa barhaus yn Amgueddfa Llangollen.

Mae’r prosiect hanes clywedol wedi’i gomisiynu gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Hannah Marubbi, Swyddog Partneriaeth ar gyfer prosiect Ein Tirlun Darluniadwy: “Rydym yn falch iawn o rannu’r podlediad newydd rhyfeddol hwn, sy’n adrodd hanes un o’r strwythurau mwyaf eiconig yn Nyffryn Dyfrdwy mewn modd creadigol, sydd wedi bod yn denu ac ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr ers canrifoedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych gweld hanes Castell Dinas Brân yn cael ei rannu mewn ffordd mor wych; mae’n ddull arloesol iawn o rannu stori’r castell. Rydym hefyd wrth ein boddau bod aelodau’r gymuned leol wedi gallu bod yn rhan o’r prosiect hwn, gan roi cyfle iddynt hyrwyddo eu hardal leol a dathlu eu treftadaeth.”

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?