Preswylwyr yn mynd i hwyl y Nadolig
Preswylwyr yn mynd i hwyl y Nadolig
Bu Preswylwyr Cartref Gofal Cysgod y Gaer yng Nghorwen yn mwynhau prynhawn o greu addurniadau bwrdd ar gyfer y Nadolig a gwehyddu Torchau, gan eu rhoi nhw yn ysbryd yr ŵyl yn barod ar 25 Rhagfyr.
Cafodd y sesiwn ei rhedeg gan dîm Natur er budd Iechyd, sy’n brosiect ar y cyd rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych. Mae’r tîm hwn yn annog mwy o bobl i fwynhau cefn gwlad er lles corfforol a meddyliol trwy gynnig amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau, gan gynnwys celf a chrefft. Cynigiwyd y sesiwn i staff a Phreswylwyr.
Roedd y preswylwyr yn hel atgofion am Nadoligau’r gorffennol wrth wehyddu a chrefftio eu ffordd trwy’r prynhawn. Mae’r math hwn o weithgaredd yn helpu i wella’r cof a gwybyddiaeth a gall helpu â sgiliau echddygol yn y dwylo.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae gweithgareddau Natur er budd Iechyd yn addas ar gyfer pob gallu a lefelau ffitrwydd. Am wybodaeth cysylltwch â Ant 07384248361 neu Becky 07748808372 beu ebostio naturerbuddiechyd@sirddinbych.gov.uk
Mae nifer o weithgareddau Nadoligaidd eraill wedi’u trefnu ar gyfer preswylwyr Cysgod y Gaer cyn y diwrnod mawr.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae’r mathau hyn o weithgareddau’n wych, gan roi pawb yn ysbryd yr ŵyl. Mae’n bwysig ein bod yn darparu’r gofal a chymorth gofal posibl i’r bobl sydd yn ein gofal a bod sesiynau fel rhain yn cael eu rhedeg i sicrhau bod preswylwyr yn hapus ac annibynnol.”
“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi lles, iechyd meddwl a chadernid yr unigolion hŷn yn ein cymunedau.”