Prosiect Dynodi Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru

Prosiect Dynodi Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru

  • Moel Famau
    Moel Famau

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel Awdurdod Dynodi i werthuso’r achos dros greu Parc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd y mater yn cael ei ystyried o fewn tymor presennol y Senedd (2021-2026) a dyma’r datblygiad Parc Cenedlaethol cyntaf i gael ei ystyried yng Nghymru ers bron i 70 mlynedd.
Mae CNC wedi sefydlu tîm i arwain y gwaith hwn a fydd yn cynnwys casglu data a thystiolaeth, ac ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Bydd proses statudol yn cael ei dilyn, ac ar ôl ymgynghori, bydd CNC yn cyflwyno argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar sail y dystiolaeth a gesglir. Os oes digon o dystiolaeth i ddangos bod y meini prawf statudol sy’n ymwneud â Harddwch Naturiol a chyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored yn cael eu bodloni, a bod gan yr ardal gymaint o arwyddocâd cenedlaethol fel y dylai dibenion Parc Cenedlaethol fod yn berthnasol, bydd Gorchymyn Dynodi’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried hyn ac yn penderfynu a ddylid cadarnhau, gwrthod neu amrywio’r Gorchymyn Dynodi. Os caiff ei gadarnhau, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Parc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
I gael gwybod mwy, ewch i  dudalen wybodaeth y prosiect CNC

https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/tudalen-wybodaeth-prosiect-dynodi-parc-cenedlaetho

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?