Prosiect yn dod i ben yn llwyddiannus

Prosiect yn dod i ben yn llwyddiannus

  • The greening of the countryside, from left, Howard Sutcliffe, of the Clwydian Range and Dee Valley AONB; Haf Roberts and Cara Roberts of Cadwyn Clwyd’s Green Communities Project, and Haf Jones, of Conwy County Council. Picture by Mandy Jones Photography.

Mae’r gronfa Cymunedau Gwyrdd, prosiect partneriaeth a gaiff ei ddarparu gan yr asiantaeth datblygu gwledig, Cadwyn Clwyd, ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gyda chefnogaeth gan Gynghorau Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam wedi cefnogi gwelliannau i weithgareddau cymunedol awyr agored ac isadeiledd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae pedwar deg tri o gymunedau wedi’u cefnogi trwy’r grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles, pedair ar hugain yn Sir Ddinbych, wyth yng Nghonwy, pedair yn Sir y Fflint a saith yn Wrecsam, maent i gyd wedi cael cefnogaeth i drawsnewid eu mannau cymunedol awyr agored er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu ac er mwyn creu mannau dymunol i fyw, gweithio a chwarae.

Mae un ar ddeg o’r prosiectau hyn ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sy’n cwmpasu Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae cyfanswm o bedwar llwybr Milltiroedd Cymunedol newydd wedi cael cyllid o’r prosiect yn Nannerch, Nantglyn, Froncysyllte a Garth.

Oeddech chi’n gwybod?

Defnyddiodd Outside Lives, menter gymdeithasol yng Ngwernymynydd ger Loggerheads, eu grant i uwchraddio cyfleusterau’n sylweddol sy’n darparu gweithgareddau a digwyddiadau i gefnogi lles a thwf. Crëwyd pwll bywyd gwyllt gyda phlatfform gwylio sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, ynghyd â llwybrau mynediad gwell trwy’r coetir a thoiledau compost, a hyn i gyd gan achosi dim ond ychydig iawn o effaith ar yr amgylchedd.

Mae Cyngor Cymuned Llangollen Wledig wedi creu dau o’r llwybrau hyn, gan wella hygyrchedd llwybrau troed yn Froncysyllte a Garth, i annog pobl i gerdded yn yr awyr agored yn y pentrefi.
Nod y Cyngor oedd gwella un llwybr ym mhob pentref a darparwyd cyswllt i’r llwybr Milltiroedd Cymunedol presennol yn Nhrefor, er mwyn i breswylwyr allu gwneud defnydd gwell o’r llwybrau cerdded yn eu cymunedau, yn ogystal â hyrwyddo’r ardal i dwristiaid sy’n ymweld â Safle Treftadaeth y Byd.

Roedd Gardd Gymunedol Corwen, safle Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, wedi profi sawl cyfnod o brinder dŵr oherwydd cyfuniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol a mwy o gyfnodau o dywydd sych. Adeiladwyd adeilad newydd, diogel o Larwydden leol, â’r gallu i gasglu mwy o ddŵr glaw ynghyd â chynnydd o 50% o ran capasiti storio. Gwnaeth y prosiect hefyd gynyddu gallu’r safle i gompostio, a chreu gwrych llwyni ffrwythau newydd â’r nod o gynyddu cynhyrchiant y safle i’r gymuned leol ei fwynhau. Gwnaeth Gwllangollen, Cwmni Buddiannau Cymunedol sy’n hunan-ariannu ac sy’n seiliedig yn Llangollen, ddarparu gwlân lleol o Ddyffryn Dyfrdwy er mwyn atal chwyn i helpu’r gwrychoedd oedd newydd eu plannu.

Gwnaeth dwy gymuned, Llandegla a Llanbedr DC, osod araeau paneli solar ar eu neuaddau pentref ynghyd â storio batris, gan leihau eu hallyriadau carbon a’u biliau tanwydd. Mae neuadd bentref Llanbedr DC eisoes yn garbon niwtral gydag aráe panel solar, ac maen nhw’n gobeithio y bydd y gosodiad newydd yn dod â nhw’n nes at fod yn un o’r adeiladau cyhoeddus sero net cyntaf yng Nghymru. Mae’r adeilad yn yr AHNE a chawsant gyllid ychwanegol o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a gyfrannodd at osod goleuadau LED ynni isel a sicrhau bod pob gosodiad allanol yn cydymffurfio â nodau Awyr Dywyll gan gynnig buddion ychwanegol nid yn unig o ran gwelededd yn ystod y nos a llygredd golau, ond hefyd amodau ar gyfer bywyd gwyllt nosol.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?