Ymunwch gyda’r panel dinasyddion
Ymunwch gyda’r panel dinasyddion

Helpu i Lunio Dyfodol Tirwedd Genedlaethol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru
Ydych chi’n byw yn neu’n mwynhau ymweld â thirweddau godidog Gogledd-ddwyrain Cymru?
Hoffech chi helpu i lunio sut y gofelir am yr ardal arbennig hon a sut y bydd yn cael ei mwynhau yn y blynyddoedd i ddod?
Rydym yn chwilio am bobl o bob cefndir i ymuno â Phanel Dinasyddion newydd ym mis Medi 2025 a fydd yn arwain cyfeiriad a rheolaeth ein Tirwedd Genedlaethol hardd (a elwid gynt yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) yn y dyfodol.
Cliciwch ar y ddolen isod:
Rhaid gwneud ceisiadau cyn 31 Gorffennaf 2025.
Mae Tirweddau Cenedlaethol yn bodoli i warchod a gwella harddwch naturiol ardaloedd, tra hefyd yn cydnabod eu pwysigrwydd fel lleoedd lle mae pobl yn byw a gweithio ynddynt ac yn ymweld â hwy. Er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau’n gwir adlewyrchu anghenion a gobeithion y rheini sy’n adnabod ac yn gofalu am y dirwedd, rydym yn gwahodd tua 15 o bobl i ymuno â’r Panel Dinasyddion a helpu i lunio’r Cynllun Rheoli nesaf, a fydd yn arwain ein gwaith o fis Ionawr 2026 ymlaen.
Am bwy rydym yn chwilio?
Rydym yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ardal – p’un a ydych chi’n byw’n lleol, yn ymweld yn aml, yn gweithio yma, neu ddim ond eisiau helpu i wneud gwahaniaeth. Rydym yn anelu i gael cymysgedd o oedrannau, profiadau a safbwyntiau.
Beth fydd y Panel yn ei wneud?
Bydd aelodau’r Panel yn cymryd rhan mewn sgyrsiau cyfeillgar, sy’n ysgogi’r meddwl ar themâu allweddol megis:
- Adfer natur, rheoli tir, hinsawdd a defnydd tir
- Cymunedau lleol a gwytnwch – gan gynnwys iaith, gwasanaethau, swyddi, tai a thrafnidiaeth
- Mwynhad a lles – twristiaeth, hamdden a’r economi ymwelwyr
- Ac yn bwysicaf oll, byddwch chi’n dod â’ch syniadau a’ch gobeithion eich hun ar gyfer dyfodol y dirwedd.
Oes gennych chi ddiddordeb?
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth yr hoffech chi fod yn rhan ohono, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cliciwch ar y ddolen isod i fynegi eich diddordeb: https://forms.office.com/e/ai86gmyJKv