Gwelliannau Loggerheads
Gwelliannau Loggerheads
Gwaith gwella ar fin dechrau ym Mharc Gwledig Loggerheads
Mae gwaith i wella Parc Gwledig Loggerheads, porth i Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ar fin dechrau.
Yn dilyn cwblhau’r gwaith ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ar y safle yn gynharach eleni, bydd gwaith uwchraddio pellach yn dechrau yn y parc gwledig.
Bydd y prosiect yn cynnwys adnewyddu’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi ynghyd â gwelliannau pellach i’r toiledau a gwaith tirlunio allanol, gan gynnwys sicrhau bod y safle yn fwy cynaliadwy trwy ychwanegu paneli solar. Mae’r gwaith yma’n bosibl yn sgil cyllid gan Lywodraeth y DU.
Mae’r contract wedi’i ddyfarnu i ParkCity Multitrade Ltd, sy’n seiliedig yn Llanelwy a bydd y gwaith yn dechrau ganol fis Awst gan bara tan ddechrau mis Mawrth 2026.
Bydd Parc Gwledig Loggerheads ar agor i ymwelwyr trwy gydol y gwaith. Bydd darpariaethau amgen ar waith yn ystod y gwaith, fel toiledau dros dro, cyfleuster arlwyo dros dro newydd gan arddangos cynnyrch o ogledd ddwyrain Cymru a mannau gwybodaeth i ymwelwyr.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau ymwelwyr.
“Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”
Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.