Materion Cymunedol

Mae harddwch naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhyfeddol, ac mae miloedd o ymwelwyr yn dod yma i gael ymdeimlad o heddwch a thawelwch tra’n mwynhau’r golygfeydd a harddwch.

Serch hynny mae cymeriad unigryw AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael ei siapio gan genedlaethau o bobl sydd wedi byw a gweithio yma ers canrifoedd; gan gynnal y cynefinoedd, defnyddio’r adnoddau, creu’r cymunedau a dod â thirweddau’n fyw.

Ond nid rhywbeth mewn amgueddfa i edrych yn ôl arnynt gydag atgofion yw ein cymunedau – maent yn drefi a phentrefi byw a bywiog sydd yr un mor werthfawr heddiw ag y maent wedi bod erioed. Mae’r AHNE yn gweithio gyda’r cymunedau hyn i gynghori a chynnig cymorth wrth barhau i wneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn leoliad dymunol, croesawgar sydd yn llawn bywyd, antur a phersonoliaeth.

Yma, fe allwch ddysgu mwy am ein cymunedau a rhai o’r bobl sydd yn cyfrannu’n rhagweithiol i’r AHNE. Os ydych chi’n ddigon lwcus i fyw neu weithio yma, gallwn gynnig gwybodaeth er mwyn i chi fanteisio ar y lleoliad unigryw, rydym ni hyd yn oed yn cynnig grantiau i rai prosiectau sy’n gwella’r ardal.

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?