Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2026

Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn falch o rannu rhaglen ddigwyddiadau Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2026 gyda chi.

Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2026

Mae’r rhaglen eang yn amrywio o Badl-fyrddio yn y tywyllwch i adrodd chwedlau’r sêr  yn y coed i weld llwch sêr o dan ficrosgopau! Rydym yn dweud y bydd rhywbeth i bawb ond byddwch yn ofalus, mae tocynnau’n gyfyngedig felly archebwch eich lleoedd yn gyflym!

Eleni rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag amryw o fusnesau a sefydliadau fel a ganlyn:

Mae Adverse Camber Productions a’u prosiect Cysur y Sêr yn cynnal pum gweithdy gyda ffocws ar y sêr a’u mythau a’u chwedlau Cymreig yn ogystal â rhai dehongliadau mwy modern.

Bydd SUPLass Adventures yn cynnal nosweithiau bythgofiadwy o badl-fyrddio o dan y sêr, rhywbeth na ddylid ei golli.

Bydd y seryddwr lleol Rob Jones a Menter Iaith yn cynnal “Cawl a Chytser”, digwyddiad iaith Gymraeg ar Foel Famau. Mae’n rhagweld i fod y digwyddiad yn flasus gan fyddwn yn gweini cawl a siocled poeth o Gwt y Bugail.

Rydym hefyd yn falch o groesawu ein cydweithiwr Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.  Ochr yn ochr â ni, bydd Dani yn cyflwyno am waith diweddar Bartneriaeth Gogledd NOS, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau yn y frwydr i amddiffyn ein hawyr nos. 

Awyr Dywyll 2026 Rhaglen

Byddwn yn rhannu’r gwahanol ddulliau archebu ar draws ein cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnos nesaf, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol am y rhaglen, cysylltwch â ceri.lloyd@denbighshire.gov.uk

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith Awyr Dywyll, ewch i: https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/cy/article/dark-skies-project/