Yn gynharach yr wythnos hon, cynhaliodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymarfer hyfforddi tanau gwyllt ym Moel Famau ochr yn ochr â phartneriaid o Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chyngor Sir Ddinbych.
Dywedodd Tim Owen, Arweinydd Tanau Gwyllt y Gwasanaeth: “Bob blwyddyn mae tân yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt ac fel y gwyddom, mae’n hawdd iawn i danau gwyllt fynd allan o reolaeth, felly mae ymarferion hyfforddi fel hyn yn hynod bwysig. Roedd yr ymarfer yn gyfle perffaith i staff ymarfer eu sgiliau diffodd tanau gwyllt i sicrhau eu bod yn barod os bydd yn rhaid iddynt fynd i’r afael â thanau gwyllt.
“Hoffwn ddiolch i bartneriaid yng Nghyngor Sir Ddinbych am y cyfle i allu ymgymryd â’r hyfforddiant hanfodol hwn ar eu tir.”

Cofiwch y bydd y cyfnod llosgi yn dod i ben ar y 31ain o Fawrth mewn ardaloedd ucheldirol a daeth i ben ar y 15fed o Fawrth mewn ardaloedd eraill. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i losgi’n gyfrifol. Rydym yn annog pob tirfeddiannwr sy’n ymgymryd â llosgi dan reolaeth i roi gwybod trwy ffonio’r Ystafell Reoli ar 01931 522 006 📞




