Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Dee Valley People Past and Present

Cyfle Swydd

Swyddog Ymgysylltu Cynulleidfaoedd yr Awyr Dywyll

Cyfnod Datblygu Rhwydweithiau’r Nos, Rhaglen Rhwydweithiau Natur.

Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda Parc Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol ledled Gogledd Cymru ar brosiect i wella ansawdd ein hawyr nos a’i fioamrywiaeth.

Swyddog Ymgysylltu Cynulleidfaoedd yr Awyr Dywyll

Cyfeirnod Swydd: PCCS00049E5MTE

Lleoliad: Neuadd y Sir Rhuthun gyda theithio ar draws Gogledd Cymru

Cyflog: Gradd 6, £32,597 – £33,699 pro rata, yn amodol ar werthusiad

Oriau: 14.8 awr yr wythnos

Contract: Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2028

Ynglŷn â Chyfnod Datblygu Rhwydweithiau’r Nos

Mae awyr nos Cymru ymhlith y tywyllaf yn y byd. Sicrhawyd cyllid drwy raglen Cronfa Treftadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Tirweddau Cenedlaethol a Pharciau Cenedlaethol Gogledd Cymru, drwy Bartneriaeth Prosiect Nos, i gydweithio ar brosiect i ganfod a mynd i’r afael ag effeithiau ecolegol goleuadau artiffisial yn y nos (ALAN).

Bydd deiliad y swydd hon yn llywio datblygiad a darpariaeth cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol i godi proffil a gwybodaeth am y mater hwn, ac i ysgogi newid mewn ymddygiad.

Nod prosiect Cyfnod Datblygu Rhwydweithiau’r Nos yw gwella rhwydweithiau ecolegol blaenoriaethol drwy fynd i’r afael â llygredd golau, un o brif achosion dirywiad cynefinoedd ond sy’n aml yn cael ei anwybyddu. Bydd yn mapio coridorau tywyll i gefnogi symudiad rhywogaethau a chydnerthedd ecosystemau. Bydd canfyddiadau’n llywio ôl-osodiadau goleuadau yn y dyfodol i ailgysylltu cynefinoedd darniog. Bydd monitro bioamrywiaeth a golau sylfaenol yn arwain camau gweithredu hirdymor.  

Mae’r swydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Dinbych. Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, gwnewch gais ar-lein drwy’r wefan www.sirddinbych.gov.uk chwiliwch am swyddi gwag ar yr hafan a dilynwch gyfarwyddiadau pellach.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd or swydd ymhellach, cysylltwch â Ceri Lloyd ar 07909934320.

Ariennir y swydd yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.