Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M

Gwesty pryfed W.R.E.C.S.A.M wedi’i osod ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gosod casgliad newydd trawiadol o westai pryfed ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr, a ariennir drwy gyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, i helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad sydyn mewn poblogaethau pryfed ledled y DU.

Mae nifer y pryfed wedi gostwng yn sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf, gydag astudiaethau’n dangos bod hyd at 60% o rywogaethau wedi’u colli. Colli cynefin yw un o’r prif ffactorau sydd wedi ysgogi’r dirywiad hwn. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ceisio cynyddu cynefin addas i helpu ein pryfed i ffynnu.


Er bod llawer o bobl yn awyddus i gael gerddi a thirweddau taclus, nid yw hynny’n gynefin addas iawn i bryfed mewn gwirionedd. Maen nhw’n ffynnu mewn “mannau blêr” sy’n eu helpu i gael rhywle i’w alw’n gartref. Mae gwestai pryfed yn cynnig ateb effeithiol a thrawiadol o ran eu golwg, ac yn ffordd wych o helpu pryfed, gan gynnig cartref parod fel bod modd iddyn nhw orffwys, gaeafgysgu a bridio, ac maen nhw’n edrych yn berffaith!

Mae’r gwestai pryfed newydd ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr yn rhan o’r llythrennau mawr, trawiadol “Wrecsam”, sydd wedi’u gosod yn erbyn cefndir y draphont eiconig. Yn ogystal â chyflwyno cynefin hanfodol, mae’r gosodwaith wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o ddirywiad pryfed ac annog ymwelwyr i feddwl yn wahanol am fannau sy’n dda i fywyd gwyllt.

Anogir ymwelwyr i alw heibio, mwynhau’r lleoliad, a phrofi’r olygfa unigryw yn enwedig ar ddiwrnod heulog, wrth ddysgu mwy am sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i fyd natur.

Mae Tîm Mannau Agored Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn defnyddio cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i gyflawni cyfres o brosiectau bioamrywiaeth ar draws parciau’r sir, gan helpu i’w gwneud yn fwy gwydn, addas i fywyd gwyllt a chroesawgar i bobl a byd natur ar yr un pryd.

Pam mae pryfed yn bwysig

Mae pryfed yn chwarae rhan hanfodol mewn iechyd ecosystemau a goroesiad dynol. Maen nhw’n brif beillwyr ar gyfer mwy na 87% o rywogaethau planhigion, yn ailgylchu maetholion yn ôl i’r pridd fel dadelfenwyr, ac yn ffurfio sylfaen gweoedd bwyd sy’n cefnogi adar a mamaliaid. Mae pryfed hefyd yn rheoli plâu yn naturiol ac yn dod â gwerth economaidd sylweddol trwy gynhyrchion fel mêl, sidan a lliwiau naturiol.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd, y Cynghorydd David A Bithell: “Mae’r gwesty pryfed trawiadol bellach wedi’i osod ac mae’n lle gwych i dynnu llun wrth ymweld â Pharc Gwledig Tŷ Mawr. “Rhan nesaf y prosiect fydd ychwanegu llwyni a phlanhigion amrywiol o amgylch y gosodwaith yn ogystal â llenwi’r bylchau yn y llythrennau gyda deunyddiau naturiol i sicrhau ei fod yn gynefin diogel a chyfforddus i’n bywyd gwyllt lleol.”

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn Wrecsam, cysylltwch â: LocalPlacesForNature@wrexham.gov.uk