Blwyddyn o Adfer Mawndiroedd ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – Gweithio Gyda’n Gilydd er Budd Natur
Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer adfer mawndiroedd ar draws Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy diolch i’r bartneriaeth arbennig rhwng tîm Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, yr RSPB, a budd-ddeiliaid lleol. Gyda’n gilydd, rydym wedi darparu gwelliannau sylweddol yn rhai o gynefinoedd pwysicaf yr ucheldir sydd dan fwyaf o fygythiad, er mwyn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt, storio carbon a chefnogi ecosystemau iachach a chryfach i’r dyfodol.
Un o’n llwyddiannau mwyaf oedd adfer hydroleg mawndiroedd ar Rostir Llandegla a Rhostir Dolydd. Gosodwyd dros 2.7 cilomedr o rwystrau ffosydd a byndiau cyfuchlinol i ail-wlychu ardaloedd o’r mawndiroedd a oedd wedi sychu ac erydu dros amser. Mae’r nodweddion hyn a luniwyd yn ofalus yn arafu dŵr, cadw lleithder o fewn y gors, ac yn annog planhigion pwysig sy’n creu mawn megis Mwsogl Migwyn. Mae mawndiroedd wedi’u hail-wlychu’n helpu i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd drwy storio carbon ac yn creu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau megis y gylfinir, gïach, gweision y neidr a mursennod.


Rydym hefyd wedi cynnal rhaglen o waredu coniffer, gan glirio 10 hectar o goed a hadodd eu hunain ar hyd ffin Coedwig Llandegla a Rhostir Rhiwabon. Gall y coed hyn ddominyddu planhigion brodorol a newid cymeriad y rhostir os na chânt eu rheoli. Mae’r gwaith i’w gwaredu wedi adfer cynefinoedd rhostir agored ac wedi gwella gwelededd o’r guddfan adar gyhoeddus gerllaw, gan roi golygfa well i ymwelwyr o’r dirwedd hon a chyfle i weld bywyd gwyllt megis y rugiar ddu heb amharu ar ardaloedd sensitif o’r rhostir.
Mae’r gwaith adfer hwn eisoes yn helpu i gynyddu lefelau dŵr, arafu erydiad a gwella amodau ar gyfer bywyd gwyllt yr ucheldir ar draws ein safleoedd mawndirol. Dros amser, bydd y buddion yn cynyddu wrth i lystyfiant adfer ac wrth i ddŵr barhau i ledaenu ar draws ardaloedd sydd wedi bod yn sych ers degawdau. Mae hwn yn waith hirdymor a chadarnhaol o ran yr hinsawdd – ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb bartneriaethau cryf ac ymrwymiad.






Hoffwn ddiolch i CNC, RSPB, perchnogion tir a phawb sydd wedi bod ynghlwm â hyn am eu gwaith caled eleni. Gyda’n gilydd, rydym yn diogelu un o gynefinoedd pwysicaf Cymru, yn gwella bioamrywiaeth ac yn sicrhau bod modd i ni fwynhau’r llefydd gwyllt, hyfryd hyn am genedlaethau i ddod.




