Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Ffenestr Cronfa Datblygu Gynaliadwy ar agor

Mae ffenestr gyntaf 2026 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau a bydd yn rhedeg tan 18fed Mai 2026.

Mae’r Gronfa Datblygu Gynaliadwy yn bennaf ar gyfer cynlluniau ymarferol ac arloesol sy’n cynnwys cymunedau a phobl ifanc mewn prosiectau o fewn Tirweddau Cenedlaethol. Mae’n rhaid i’r prosiectau fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a newid hinsawdd, a lleihau eu heffeithiau. Bydd y mathau o brosiectau a gefnogir yn cyrraedd nodau cynaliadwy’r gronfa a’r Dirwedd Genedlaethol, sef:

  • Cynnal a gwella harddwch naturiol y Dirwedd Genedlaethol, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig
  • Hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd mewn Tirweddau Cenedlaethol
  • Hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau
  • Hyrwyddo mwynhad tawel o fewn Tirweddau Cenedlaethol

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn gyfle gwych i wneud cais am gymorth grant ar gyfer prosiectau amgylcheddol arloesol a chynaliadwy, sy’n cynnwys cymunedau o fewn y Dirwedd Genedlaethol eglura Ceri Lloyd sy’n gweinyddu’r gronfa.

Gellir dyfarnu hyd at £24,999 i geisiadau llwyddiannus i helpu gyda phrosiectau sy’n mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a newid hinsawdd, a lleihau eu heffeithiau.

Y llynedd, cefnogodd y gronfa 10 prosiect ar draws Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r gronfa ar agor i unrhyw sefydliad gan gynnwys grwpiau cymunedol neu wirfoddol.

“Rydym yn edrych i gefnogi prosiectau sy’n dangos arloesedd neu arfer gorau sy’n cynnwys cymunedau lleol a phobl ifanc.”

Am gopi o’r canllawiau, mynegwch eich diddordeb drwy e-bost i ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk