Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn 390 cilomedr sgwâr o rai o dirluniau mwyaf bendigedig y DU. O lethrau arfordirol Llechweddau Prestatyn yn y Gogledd i Fryniau anghysbell y Berwyn a Thraphont Ddŵr a Chamlas yn y De, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dirlun o wrthgyferbyniad sy’n aros i gael ei darganfod. Mae Bryniau Clwyd i’r Gogledd yn gadwyn anhygoel o gopaon grug gyda bryngaerau’r Oes Haearn. I’r De, mae rhosydd Llandegla yn cynnwys Mynydd Rhiwabon a chlogwyni carreg galch anhygoel sgarp Eglwyseg. Yma mae Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys tirlun canoloesol, gyda gweddillion Castell Dinas Bran, Piler Eliseg ac Abaty Glyn y Gors a Chastell y Waun sy’n gwarchod y fynedfa i’r dyffryn i’r Dwyrain. Mae Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, nawr yn Safle Treftadaeth y Byd, yn heneb i orffennol diwydiannol yr AHNE.

Mae’r AHNE yn dod o fewn rhannau o’r siroedd yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, o fewn cyrraedd i bob rhan o’r DU, ac wedi’i lleoli’n unigryw i chi ddarganfod amrywiaeth cyfoethog o dirlun, hanes a diwylliant.

Cafodd Bryniau Clwyd eu dynodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Gorffennaf 1985 o dan y Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.

Ym mis Tachwedd 2011, roedd Gweinidog Amgylchedd Cymru wedi cadarnhau estyniad deheuol i gynnwys Dyffryn Dyfrdwy o Gorwen i’r Waun.

Beth yw AHNE?

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn rhan ddynodedig o’n tirlun sydd â chymeriad, harddwch a threftadaeth ddiwylliannol mor werthfawr mae’n cael ei gwarchod er budd cenedlaethol. Mae amddiffyn yn diogelu ac yn gwella harddwch naturiol, cymunedau a busnesau, a saernïaeth ac archaeoleg unigryw yr ardal.

Mae yna 46 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn y DU ac mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn un o 5 yng Nghymru.

Beth sy’n gwneud AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig?

Mae’r porth gwych hwn i Ogledd Cymru yn lle i’w archwilio drwy pa bynnag fodd y gallwch. Efallai mai llonyddwch y diffeithwch anghysbell, neu’r golygfeydd gwych o lawer o’r copaon. Efallai mai’r hanes hynafol, y gweddill i’w gweld yn yr archaeoleg, gweddillion a saernïaeth drwy’r AHNE. Neu’r bywyd gwyllt mewn cynefinoedd naturiol sy’n denu pobl i fyw, gweithio ac ymweld? Beth bynnag ydyw, mae gennym ddyletswydd i ddarparu mynediad tra’n cynnal ein daearyddiaeth, fflora a ffawna – a’n pentrefi – i genedlaethau eu mwynhau.

Cyrraedd Yma

Yn rhedeg yn agos ar hyd ffin Lloegr a Gogledd Ddwyrain Cymru, mae’n hawdd iawn cyrraedd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy o bob rhan o Brydain a thu hwnt, gan ei wneud yn gyrchfan perffaith ar gyfer diwrnod allan, gwyliau byr neu wyliau hirach.

Canllaw trafnidiaeth
Clwydian Range AONB location
Getting to the Clwydian Range AONB

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?