Mwynhau’r AHNE

Mae tirweddau trawiadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi denu ymwelwyr ers cannoedd o flynyddoedd. O gopaon godidog i ddyffrynnoedd coediog a golygfeydd dramatig bob yn ail: Dyma’r cefndir perffaith i amrywiaeth o weithgareddau awyr agored fel cerdded, beicio a chwaraeon dŵr.

Mae hanes y bobl a fu’n byw a gweithio yn yr ardal i’w weld yn y cyfoeth o atyniadau treftadaeth: archwiliwch ein cadwyn o fryngaerydd, mentrwch ar draws Dyfrbont Pontcysyllte, profwch y llonyddwch yn Abaty Glyn y Groes, ac ewch i weld dros eich hunain pam roedd Castell Dinas Brân a Chastell y Waun yn amddiffynfeydd mor effeithiol.

Rydym yn falch o’r cynefinoedd rydym yn eu cadw a’u gwella ar gyfer ein bywyd gwyllt. Gallwn gynnig y rhywogaethau prin a’r hardd, o adar fel Cornhedydd y Coed a’r Grugiar Ddu i blanhigion fel tegeirianau a Chrwynllys Chwerw. Dewch i ddarganfod, mwynhau ac efallai eu helpu i oroesi hyd yn oed.

Ein trefi a phentrefi yw curiad calon yr AHNE. Mae gan bob un eu cymeriad Cymreig amlwg eu hunain, ac amrywiaeth o siopau, caffis a bwytai lle gallwch flasu bwyd a diod arbennig wedi’u cynhyrchu’n lleol. Cadwch olwg am ddigwyddiadau traddodiadol, fel eisteddfodau a sioeau gwledig, sy’n dal i adlewyrchu’r berthynas agos rhwng pobl a’r tir hyd heddiw.

Mae’n hawdd trefnu ymweliad gyda’n hawgrymiadau defnyddiol am ffyrdd i archwilio’r AHNE, p’un ai oes angen help arnoch ar gyfer teithio, parcio neu leoedd i aros.

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?