Afraid pob afrad!

Afraid pob afrad!

  • Heledd & Alan

Os ydych chi’n byw yn Nyffryn Clwyd a’r cyffiniau a chennych chi afalau dros ben yn eich gardd, efallai y gallwch chi helpu achos da iawn.

Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol SUDD yn gwasgu afalau i greu sudd afal blasus i’w werthu. Mae’r holl elw a wneir drwy werthu’r sudd afal yn cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol lleol.

I drefnu bod rhywun yn dod i nôl eich afalau neu am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manteision rhoi afalau, cysylltwch â SUDD.

@suddafal ar facebook neu drwy ffonio: 07712641447 neu ebostiwch: info@suddafal.com

Yn 2019 derbyniodd SUDD grant gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy’r AHNE ac rydym ni’n parhau i gefnogi gwaith da’r grŵp.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r holl elw a wneir drwy werthu SUDD afal yn cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol lleol. Drwy brynu potel mi fyddwch chi’n helpu’r amgylchedd! Felly mae pawb ar eu hennill!

Dyma ychydig o siopau sy’n gwerthu SUDD:
• Cigydd Teuluol Dan Jones, Llandyrnog
• Ruthin Wholefoods
• Siop Fferm Clyttir
• Siop y Pentre, Llanrhaeadr
• Te’n y Grug, Dinbych
• Blwch pres Chillycow
• Siop Fferm Swans, Treuddyn
• Naturally Ethical, Rhuthun
• The Deli on the Hill, Prestatyn
• Maes Carafanau Llanbenwch
• Gorsaf Wasanaethau Rhyd-y-mwyn
• Y Tŷ Gwyrdd, Dinbych

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?