Gŵyl Gerdded yn dychwelyd

Gŵyl Gerdded yn dychwelyd

  • Cerdded yng Nghoedtir. Walking in Woodland

Gyda theithiau cerdded hardd a hanesyddol yn Sir Wrecsam ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae Gŵyl Gerdded Wrecsam yn ffordd berffaith i fynd yn ôl allan a mwynhau tirweddau godidog gogledd ddwyrain Cymru. I gyfarfod â hen ffrindiau neu wneud ffrindiau newydd, mae amgylchedd cyfeillgar a hamddenol y teithiau cerdded yn ffordd dda o ddechrau cymdeithasu eto mewn ffordd ddiogel.
Os ydych yn gerddwr profiadol neu’n chwilio am rhywbeth newydd, o Dydd Sadwrn 3ydd o  Fehefin tan Dydd Sul 11RF o Fehefin, dyma gyfle i gyfarfod pobl newydd, i fynd ar daith gerdded fer neu i fentro ar deithiau hirach ac anoddach a fydd yn cynnig mwy o her.
Bydd y teithiau’n cael eu tywys gan arweinwyr cyfeillgar, profiadol a hyfforddedig. Dylai cerddwyr wisgo esgidiau cryfion a dillad addas ar gyfer tywydd newidiol Cymru. Bydd angen lefel dda o ffitrwydd ar gyfer y teithiau anoddach. Does dim angen cadw lle ac mae’r teithiau i gyd yn rhad ac am ddim! Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw dod i’r mannau cyfarfod lle cewch chi groeso mawr gan arweinydd eich taith.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf a rhagor o fanylion am fannau cychwyn y teithiau ewch i’r wefan, neu cysylltwch â’r Ganolfan Groeso ar 01978 292015, e-bost tic@wrexham.gov.uk neu ewch draw i’r Ganolfan yn Ffordd Caer, Wrecsam LL13 8BE.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?