Mae eich awyr eich angen chi!

Mae eich awyr eich angen chi!

Helpwch ni i ennill Statws Awyr Dywyll Rhyngwladol
Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy angen eich help chi. Rydym yn chwilio am llythyrau o gefnogaeth i sefydlu’r AHNE fel Tirwedd Awyr Dywyll. Mae ein cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn cynrychioli ymdrech ar y cyd yr AHNE a phartneriaid yn gweithio tuag at un awyr dywyll. Wrth ennill y wobr hwn, rydym yn gobeithio bwrw ymlaen â’n taith o adfer ac amddiffyn yr awyr dywyll wrth godi ymwybyddiaeth o fewn a thu hwnt i’r rhanbarth.

Sut gallwch chi helpu?
Fel rhan o’n cais mae’n rhaid i ni ddangos “Cefnogaeth eang i awyr dywyll gan ystod eang o sefydliadau cymunedol megis siambrau masnach, cyfleustodau trydanol lleol, penodau’r IDA, manwerthwyr goleuo, cymdeithasau perchnogion tai, ac eraill.”
Os hoffech gefnogi’r AHNE anfonwch lythyr o gefnogaeth i;
Swyddog Awyr Dywyll
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Parc Gwledig Loggerheads
Loggerheads
Ger yr Wyddgrug
CH7 5LH
Neu anfonwch fersiwn electronig i gwenno.jones@sirddinbych.gov.uk

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r AHNE wedi darparu amrywiaeth o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o awyr y nos a chymryd camau i’w hamddiffyn gan gynnwys;
• Cynnal digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd; o deithiau cerdded ystlumod a syllu ar y sêr i badlfyrddio gyda’r nos.
• Newid goleuadau ym Mharc Gwledig Loggerheads
• Cyhoeddiadau a llenyddiaeth arbenigol
• Gweithdai ymgysylltu â busnesau
Mae’r tîm ynghyd â chymorth arbenigol a’r tri awdurdod cynllunio lleol yr AHNE – Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam hefyd wedi datblygu Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Mae’r ddogfen yn rhoi cyngor manwl i ddarpar ddatblygwyr, swyddogion cynllunio ac eraill ar sut i ymdopi’n llwyddiannus â datblygiad yn yr AHNE ac o’i chwmpas heb niweidio nodweddion arbennig yr ardal. Mae’r CCA yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.
Os hoffech wybod mwy cysylltwch â ni.
Diolch am eich cefnogaeth

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?