Sêr Sŵp-er!

Sêr Sŵp-er!

Ar nos Lun yr 11eg o Ragfyr cynhaliodd y Tîm AHNE noson o syllu ar y sêr ym Mharc Gwledig Moel Famau a dyna noson!

Dechreuodd y noson am 6pm lle cyfarfuom y tu allan i Gwt Y Bugail ym Mwlch Penbarras. Ar ôl cofrestru derbyniwyd y mynychwyr dogn o gawl. Darparwyd y cawl gan Fwyty Edenshine, Canolfan Grefft Afonwen. Mae Afonwen yn aelod o Grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a’i ddiben yw codi proffil yr amrywiaeth o gynnyrch tymhorol lleol o ansawdd uchel i bobl leol ac ymwelwyr â’r ardal.

Croesawodd Rheolwr Ardal yr AHNE David Shiel bawb i’r digwyddiad a rhoddodd gyflwyniad byr i’r gweithgareddau cyn cychwyn ar daith gerdded fer ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Cododd David hefyd ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw a gwella ein hawyr dywyll ac uchelgeisiau’r AHNE ar gyfer cyflawni Statws Awyr Dywyll.

Ymunwyd â ni gan ein cydweithiwr Dani Robertson o Bartneriaeth Prosiect NOS a arweiniodd y gweithgareddau syllu ar y sêr. Mae gan Dani gyfoeth o wybodaeth am awyr y nos a daeth â rhai o’r straeon rhyfeddol sy’n gysylltiedig â rhai o’n cytserau a’n sêr adnabyddus yn fyw.

Oeddech chi’n gwybod?

Bydd Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2024 yn cael ei chynnal rhwng 9fed – 18fed Chwefror.

Daeth Ceidwad Edd yn barod gyda matiau gwersylla a gorweddodd y mynychwyr yn y grug i glywed stori Gwyn a Gwythur oedd yn berthnasol i’r adeg hon o’r flwyddyn oherwydd Cawod Meteor Geminids sydd ar ei amlycaf ar y Rhagfyr 14eg. Ar y cyfan cawsom awyr glir gydag ychydig o gymylau, amodau gwych i’r digwyddiad.

Ar ôl treulio peth amser ar ochr y bryn a chyn yr oerni aethom yn ôl i Fwlch Penbarras lle’r oedd Rachel wych o’r Tîm AHNE yn aros amdanom gyda siocled poeth ffres gyda hufen a marshmellows, ffordd hyfryd o orffen noson hudolus.

Derbyniwyd adolygiadau gwych gan ein mynychwyr ac roedd ein Swyddog Awyr Dywyll a threfnydd y digwyddiad, Gwenno Jones yn falch iawn gyda lefel yr ymgysylltiad a’r brwdfrydedd a gafwyd ar y noson ac ni all aros tan Wythnos Awyr Dywyll 2024 a gynhelir rhwng y 9fed a’r 18fed Chwefror. Gobeithiwn eich gweld chi yno hefyd!

© Prosiect NOS

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?