Trefnu Ymweliad

Trefnu Ymweliad

  • Photo of chirk castle
    Castell y Waun / Chirk Castle
  • Plas Newydd, Llangollen
    Plas Newydd

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi’i leoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae ei agosatrwydd at ffin Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr yn ei wneud yn leoliad hygyrch i weld rhannau o gefn gwlad gorau Prydain.

Mae ffordd yr A55 yn rhedeg drwy ogledd yr AHNE, gyda’r M62, M53 ac M56 yn eich tywys o’r gogledd. Os ydych yn dod o’r de, bydd yr A5 a’r M56 yn eich tywys i ganol yr AHNE. Mae Lerpwl, Manceinion a Birmingham yn llai na 2 awr i ffwrdd, ac mae taith i Lundain neu Glasgow hyd yn oed, yn hawdd i’w wneud mewn hanner diwrnod.

Oeddech chi’n gwybod?

Os ydych chi yn yr ardal, beth am alw heibio ein Canolfannau Croeso i gael syniadau a gwybodaeth am y digwyddiadau ac atyniadau diweddaraf.

Swyddfa Cefn Gwlad Llangollen
Canolfan Groeso Llangollen
Y Capel
Llangollen

Parc Gwledig Loggerheads (Pwynt Gwybodaeth Twristiaeth)
Ffordd Rhuthun
Ger yr Wyddgrug

Rhug Farm Estate (Pwynt Gwybodaeth Twristiaeth)
Corwen

Neu ewch i wefan Gogledd Ddwyrain Cymru

Gwefan Visit Clwydian Range

Tra eich bod yma yn ymweld neu’n gwirfoddoli hyd yn oed, ac yn barod am fwyd a diod, gallwch gymryd mantais o’r cynnyrch lleol anhygoel yn ein bwytai a chaffis. Os ydych wrth eich boddau’n darganfod unrhyw beth o fwyd arbennig i gwrw iawn, rydych yn siŵr o ddarganfod rhywbeth i dynnu dŵr i’r dannedd.

Os ydych yn dymuno aros am gyfnod hirach, gallwn gynnig digonedd o ddewis i chi orffwys eich pen, o westai moethus i leoliadau gwahanol o dan gynfas, tafarndai a gwely a brecwast mewn ffermdai – oll mewn rhai o’r trefi a phentrefi mwyaf braf yng Nghymru.

Ewch i’w gwefan i archebu neu i ddarganfod mwy.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?