Bryngaerau

Bryngaerau

  • Dinas Bran

Tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, mewn lleoliadau amlwg ar ben bryniau ar draws Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, roedd cymunedau’n adeiladu pentrefi gydag amddiffynfeydd o’u hamgylch. Roedd y bobl yn byw mewn tai crwn wedi’u gwneud o bren, a oedd yn cael eu gwarchod gan ragfuriau’r cafnau a’r ffosydd. Roeddent yn byw, caru ac yn marw, yn ffarmio, adeiladu, cyfnewid, ymladd ac yn dathlu o fewn muriau’r pentrefi hyn. Bu pobl yn byw yn rhai o’r pentrefi hyn am gannoedd o flynyddoedd cyn eu gadael yn yr oesoedd canol, fel y safle yn Ninas Bran. Fe wnaeth y tirwedd gymryd drosodd mewn lleoliadau eraill, a rhai ohonynt ond wedi cael eu hailddarganfod yn ddiweddar.

Ond mae’r ystod anhygoel o fryngaerau Oes yr Haearn yn un o’r tirweddau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru, ac mae bob un ohonynt yn hyfryd ac yn gyfoethog mewn traddodiad hynafol.

Oeddech chi’n gwybod?

Canfuwyd llwyth o geiniogau Rhufeinig ar Foel Fenlli yn 1817. Pwy a wyr pa drysorau eraill sydd o dan ein traed.

Er na wyddom lawer am sut roedd y bryngaerau hyn yn cael eu defnyddio, na sut maent yn perthyn i’w gilydd, mae llawer o waith ymchwil wedi’i wneud mewn perthynas â nhw, i gadw a chynnal eu treftadaeth, i wella mynediad ac adfer y rhostir, ac i’w hailgysylltu nhw gyda’r cannoedd ar filoedd o ymwelwyr sy’n ymweld â’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, rhai ohonynt nad ydynt yn ymwybodol o arwyddocâd eu cyrchfan.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2021 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?