Bryngaer: Moel Arthur

Bryngaer: Moel Arthur

  • Aerial view of Moel Arthur

Bryngaer fechan gron syn coroni bryn amlwg iawn syn edrych dros Ddyffryn Clwyd ir de o Benycloddiau ydy Moel Arthur. Ond er ei bod yn ymestyn dros ddau hectar yn unig, maen meddu ar rai or cloddiau ar ffosydd mwyaf on holl fryngaerau.

Mae’r rhagfuriau hyn, neu llethrau yn fychan ar yr ochr orllewinol, ble maent yn ffurfio’r terfyn rhwng Sir y Fflint a Sir Ddinbych, ond yn llawer mwy datblygedig i’r gogledd. Mae un fynedfa fewndro yn y gogledd-ddwyrain

Doedd gweithgaredd ar Foel Arthur ddim wedi’i gyfyngu i’r Oes Haearn. Mae yna domen gladdu bosibl o’r Oes Efydd yng nghanol y fryngaer a thystiolaeth o chwarelu ar ymyl deheuol y bryn.

Oeddech chi’n gwybod?

Dywed chwedl y bu ymwela ar y bryn yn ystod y byrhoedlog ruthr am aur yng Nghilcain gan gloddwyr aur bythol-obeithiol ond siomedig gwaetha’r modd. Yn sicr, ar lethrau is gogleddol y bryn, gallwch weld arwyddion o chwarela, sydd fwy na thebyg yn gysylltiedig â’r “rhuthr am aur”.

Yn dilyn tannau ar Foel Fenlli, pan ddaethpwyd o hyd i gasgliad o hen geiniogau Rhufeinig, fe wnaeth teulu’r Middletons yng Nghastell Rhuthun, a oedd yn berchen ar y casgliad o fryngaerau, gomisiynu Wynne Ffoulkes i ymgymryd â gwaith cloddio ym 1849, er nad ydy’r union leoliadau na nifer y ffosydd yn glir. Fe wnaeth ddod o hyd i ôl waliau cerrig sych wedi’u hadeiladu’n rheolaidd yn ogystal â “coarse red Roman pottery, and flint arrowheads and corroded iron” [i].

Yn 1962, yn dilyn storm ddifrifol o law, cafwyd hyd i gelc o dair bwyell fflat o’r Oes Efydd oddi mewn i’r amddiffynfeydd [ii].

Forde Johnston sy’n nodi’r gwarchotgellau wrth y fynedfa a’r mynediad cul a gogwydd aruchel y rhagfuriau yno gyntaf. Mae’n awgrymu mai’r clawdd mewnol ar yr ochr ogleddol oedd cam cyntaf yr adeiladu gyda’r clawdd allanol wedi’i adeiladu’n ddiweddarach.

Fodd bynnag, mae arolwg topograffig gan y Gwasanaethau Archaeoleg Peirianyddol yn 2006 yn awgrymu fod y cyfnodedd fel arall, gyda llinell allanol y llethrau’n hŷn na’r llethrau mewnol.

Yn ystod prosiect y Grug a’r Caerau a ariannwyd gan y Loteri, a ddaeth i ben ar ddechrau’r 2010au, daeth grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd i ddysgu am dechnegau cloddio ac archaeoleg. Unwaith y cwblhawyd y prosiect, fe wnaeth y grŵp barhau a datblygu i fod yn Grŵp Archaeoleg Bryniau Clwyd, neu CRAG. Maent wedi llwyddo i gael cyllid gan gyrff megis Cadwyn Clwyd, y Loteri a Cronfa Datblygu Cynaliadwy yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Mae’r grŵp wedi llwyddo i gwblhau rhai arolygon geoffisegol ar y llethrau y tu allan i fryngaer Moel Arthur, a arweiniodd at waith cloddio yn ystod y mwyafrif o hafau. Mae’r gwaith cloddio yn dangos fod pobl wedi defnyddio’r ardal o amgylch y bryn am amser hir, gyda thystiolaeth o dwmpath wedi llosgi o’r Oes Efydd, popty o gyfnod cynharach o bosibl, yn ogystal â chasgliad diddorol o offer carreg, nifer ohonynt wedi’u gwneud o fflint a chornfaen, ond mae rhai o’r offer unigryw hyn wedi’u gwneud o galchfaen.

Mae’r grŵp yn parhau i weithio, a gellir dod o hyd i wybodaeth ar eu gwefan.

[i] Wynne Ffoulkes 1850 Archaeologia Cambrensis
[ii] Forde Johnston 1965 Archaeologica Cambrensis

Sut i gyrraedd yno
O’r ffordd o’r Wyddgrug i Ddinbych (A541) cymerwch y troad cyntaf i’r chwith ar ôl y troad am Gilcain. Mae’r gaer ddwy filltir i lawr y ffordd yma gyda maes parcio bychan wedi’i leoli’n agos at y safle.

OS map: Explorer 265.
OS Cyfeirnod grid: SJ145660

Dadlwythiadau Defnyddiol

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2021 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?