Bryngaer: Moel y Gaer Llanbedr

Bryngaer: Moel y Gaer Llanbedr

Mae Moel y Gaer Llanbedr wedii leoli ar esgair orllewinol oddi ar grib ganolog Bryniau Clwyd gyda golygfeydd aruchel dros Ddyffryn Clwyd.

Yn ymestyn dros dri hectar mae’n cynnwys prif loc gydag estyniad siâp D ar yr ochr a allai fod wedi’i ddefnyddio i gadw anifeiliaid.

Dim ond un set o ragfuriau sydd gan y fryngaer. I’r de maent yn fychan ond i’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain, ble mae cyfrwy isel o dir yn cysylltu’r esgair â phrif grib Bryniau Clwyd, maent yn fwy ac yn cynnwys mynedfa gymhleth ble oedd cloddiau’n gweithredu fel twmffat i’w gwneud yn galetach i bobl ymosod.

Mae mynedfa ychwanegol yn torri trwy’r rhagfuriau ar yr ochr orllewinol, er ei bod yn anodd credu ei bod yn cael ei defnyddio oherwydd serthrwydd y llethr.

Cloddiwyd Moel y Gaer Llanbedr yn 1849 gan W Wynne Ffoulkes. Yn ôl cynlluniau cyhoeddedig [i] cloddiwyd dwy ffos yn union y tu mewn i ac i’r de o’r brif fynedfa. Yn ôl pob golwg yr unig arteffact a leolwyd oedd telchyn a ddisgrifiwyd fel “Roman pottery, well fabricated and of deep red colour”. Mae Wynne Ffoulkes yn cyfeirio at ddarganfod llosgi helaeth yn y rhagfur mewnol yn agos at y llidiart.

Yn y 1920au ni allai Ellis Davies [ii] ddod o hyd i ddim argoel o breswylio o unrhyw fath er bod Forde Johnston yn awgrymu yng nghanol y 1960au fod un llwyfan cwt posibl yn weladwy [iii]. Mae’n awgrymu dau gyfnod adeiladu posibl – clawdd mewnol, ffos ac isglawdd sgarp yn cael eu dilyn gan ffos allanol ac isglawdd sgarp ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol.

Awgrymodd Willoughby Gardner hefyd y gall fod chevaux de frise neu ysbigau (math o amddiffyniad pigog symudadwy) yn yr ail ffos, er nad oes neb wedi edrych ar hyn.

Daeth arolwg topograffig yn 2007 gan Engineering Archaeology Services (EAS) o hyd i 15 llwyfan cwt posibl oddi mewn i’r tu mewn. Fe wnaethant sylwi ar lecyn o losgi dwys wrth wâl defaid yn agos at y fynedfa a chawsant hyd i damaid o ddeunydd wedi’i losgi a all ddangos tystiolaeth o wydriad.

Yn 2008 gwnaeth EAS a gwirfoddolwyr arolwg pellach oedd yn awgrymu bod mynedfa gynharach, symlach i’r fryngaer a losgwyd ar un adeg.

[i] Wynne Ffoulkes 1850 Archaeologia Cambrensis
[ii] Canon Ellis Davies 1929 Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire
[iii] Forde Johnston 1965 Archaeologica Cambrensis

Sut i gyrraedd yno
Nid oes yr un llwybr yn arwain yn uniongyrchol ar Foel y Gaer ond mae golygfeydd trawiadol ohoni o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa i’r dwyrain ac o lwybr cyhoeddus i’r gorllewin. Dechreuwch y ddau lwybr o faes parcio Giât Haearn Moel Famau.

Map OS: Explorer 265. Cyfeirnod grid OS: SJ149617

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?