Bryngaer: Moel y Gaer Llantysilio

Bryngaer: Moel y Gaer Llantysilio

Saif Moel y Gaer Llantysilio ar gopa isel rhwng cribau Moel Gamelin a Moel Morfydd ar Fynyddoedd Llandysilio.

Hon ydy’r lleiaf a’r symlaf o’n bryngaerau gydag un rhagfur yn amgylchynu arwynebedd o ddim ond un hectar a gydag un fynedfa fewndro.

Efallai fod y fryngaer hon yn fechan ond mae’r lloc yn meddu ar olygfeydd ardderchog dros Afon Dyfrdwy, Afon Alun a’r dyffrynnoedd oddi amgylch.

Ni fu dim cloddio ar y safle yn y gorffennol ond yn 2007 gwnaeth Engineering Archaeology Services (EAS) arolwg topograffig a ddaeth o hyd i 11 o lwyfannau cytiau posibl y tu mewn i’r fryngaer.

Sut i gyrraedd yno
Gellwch adael eich car gyferbyn â Chapel Hebron yn Rhewl ar y B5103 rhwng Pentrefelin (ar ffordd A542 Yr Oernant, ger Llangollen) a Glyndyfrdwy yn Nyffryn Dyfrdwy.

Map OS: Explorer 256

 Cyfeirnod Grid: SJ167464.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?