Bryngaer: Penycloddiau

Bryngaer: Penycloddiau

  • Iron Age feast illustration
  • Penycloddiau Hillfort from the air

Penycloddiau yw’r fryngaer fwyaf ym Mryniau Clwyd ac un o’r rhai mwyaf yng Nghymru, yn cwmpasu ardal o 21 hectar.

Mae ganddi sawl ffos gonsentrig (amlgantelog) a rhagfuriau helaeth (cloddiau) i’r gogledd a’r gogledd-orllewin, gyda mynedfeydd yn rhagfuriau’r de a’r dwyrain, a’r rhagfur gorllewinol hefyd o bosibl. Mae’n bosibl fod ffens fawr bren ar ben y rhagfuriau a hynny’n rhoi cysgod i’r tai o fewn y gaer.

Darganfuwyd tystiolaeth hefyd fod tai crynion ar hyd y fryngaer, rhyw fath o ardal gaeedig o bosibl, a phyllau canolog allai fod wedi cyflenwi dŵr i’r preswylwyr.

Oeddech chi’n gwybod?

Codwyd peth o’r arian ar gyfer y dyddio radio carbon gwyddonol gan y gymuned leol yn Llandyrnog drwy gynnal bore coffi.

Yn y 1960au awgrymodd Forde Johnston fod tri cham posibl i’r gwaith o adeiladu’r fryngaer – a chadarnhawyd hynny ar gychwyn yr 21ain Ganrif gan brosiect y Grug a’r Caerau – ond gallai pobl fod wedi bod yn defnyddio’r safle yma cyn Oes yr Haearn hyd yn oed, gan fod tomen gladdu bosibl o’r Oes Efydd at ochr ogleddol y bryn.

Cyn belled ag y gellir dweud, ni fu gwaith cloddio ar y safle cyn 2004. Digwyddodd y rhan fwyaf o’r gwaith archeolegol a wnaed rhwng 2004 a 2010 fel rhan o brosiect y Grug a’r Caerau a ariannwyd gan y Loteri. Roedd yn cynnwys arolwg topograffig o’r safle a nodwyd 43 llwyfan posibl a ffos archeolegol i’r gladdfa bosibl o’r Oes Efydd, a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (CPAT), ac arolwg geoffisegol a ddatgelodd dai crynion newydd ac ardal gaeedig bosibl, a wnaed gan Wasanaethau Archaeoleg Peirianyddol (EAS) a’u gwirfoddolwyr.

Rhwng 2012 a 2018 defnyddiwyd gwaith cloddio ym Mhenycloddiau fel cyfle i hyfforddi myfyrwyr Ysgol Faes Archaeoleg Prifysgol Lerpwl. Symbylwyd y gwaith hwn, o dan arweiniad Dr Rachel Pope a Richard Mason drwy’r cysylltiadau llwyddiannus a wnaed drwy brosiect y Grug a’r Caerau. Treuliodd dros 50 o fyfyrwyr rhyngwladol eu hafau yn dysgu am agweddau ymarferol archaeoleg a chloddio drwy ddod i AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a gweithio ar Benycloddiau.

Fel rhan o’r prosiect, cloddiwyd rhan o’r rhagfur ar ochr ddwyreiniol y gaer, a llwyfan tŷ crwn cyfagos. Yn hanesyddol, mae’n amlwg ar un adeg fod y rhagfur yn wal garreg sych enfawr 3 metr o led gyda thrac o amgylch yr ochr allanol rhyngddi hi a ffos 2.5 metr.

Yn anffodus, nid oes fawr ddim wedi goroesi o ran arteffactau fyddai wedi helpu’r cloddwyr i roi dyddiad i’r rhagfur a’r tŷ, ond cymerwyd nifer o samplau gyda’r bwriad o gynnal prawf dyddio radio carbon C14. Bydd yn ddiddorol gwybod y canlyniadau, a byddwn yn eu cyhoeddi yn y pen draw.

Mae’r rheswm dros adeiladu Penycloddiau yn gwestiwn mawr arall, a’r cloddio yn dechrau mynd i’r afael â hyn. Mae’n eang – a’r wal garreg sych 3 metr o led, os yw yr un fath o gwmpas y gaer gyfan, wedi golygu gwaith enfawr dros gyfnod hir iawn. Mae rhai wedi awgrymu y byddai adeiladu rhywbeth fel Penycloddiau, dros sawl cenhedlaeth o bosibl, wedi helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd.

Sut i gyrraedd yno
O Fodfari ger Dinbych neu o Lanbedr DC ger Rhuthun, ewch ar hyd y B5429 i Landyrnog. Dilynwch yr arwyddion am Langwyfan, a pharhau i ddilyn y ffordd wledig hon drwy’r pentref ac ymlaen at faes parcio bychan 1/4 milltir o’r safle. Gellir cael mynediad uniongyrchol at y gaer gan fod Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn mynd trwyddi.

OS map: Explorer 265
OS. Cyfeirnod grid: SJ128678.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?