Tirweddau Gylfinir Cymru | Wedi’i leoli yn Llangollen
Mae’r Gylfinir Ewrasiaidd yn un o’r blaenoriaethau cadwraeth uchaf yng Nghymru. Heb weithredu ar frys, gallai gael ei golli fel rhywogaeth sy’n bridio o fewn y degawd nesaf. Mae Tirweddau Gylfinir Cymru yn brosiect mawr newydd sy’n gweithio i wrthdroi’r dirywiad hwn.
Rydym nawr yn recriwtio Swyddog Gylfinir a Phobl i ymuno â’r tîm.

Mae hon yn rôl amrywiol ac ymarferol yn gweithio gyda ffermwyr, rheolwyr tir a chymunedau, gan gefnogi cadwraeth ymarferol ar lawr gwlad.
Byddwch yn:
– Cefnogi gylfinirod sy’n bridio
– Gweithio’n agos gyda rheolwyr tir
– Cydlynu ymyriadau ymarferol
– Adeiladu’r perthnasoedd sy’n gwneud y gwaith hwn yn bosibl
Os ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phobl cymaint â bywyd gwyllt, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
👉 Manylion llawn a sut i wneud cais:
– Ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych
– Cliciwch Swyddi Gwag (top ar y dde)
– Cliciwch Swyddi Gwag (bocs gwyrdd, top chwith)
– Cliciwch Llangollen yn y blwch Rhanbarth
📅 Dyddiad cau: 28 Mai
📞 Ymholiadau anffurfiol: Rhun Jones – 07917 000154
Mae Tirweddau Curlew Cymru yn cael ei ariannu drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur (Rownd Pump) drwy Lywodraeth Cymru ac yn cael ei weinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.





