Rydym yn recriwtio – Ceidwad Cefn Gwlad / Swyddog Prosiect
Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (Llangollen)
Cyfle cyffrous i ymuno â thîm y Ceidwaid sy’n gweithio ar draws Dyffryn Dyfrdwy ac i’r de o’r Dirwedd Genedlaethol. Mae’r rôl yn ymarferol ac yn amrywiol, gan gyfuno gwaith cadwraeth â rheoli safleoedd, ymgysylltu â’r gymuned a helpu i reoli pwysau ymwelwyr ar safleoedd a ddefnyddir yn helaeth.
Mae’r swydd yn cynnwys gweithio penwythnosau ar rota (tua un penwythnos mewn pedwar) a chyflenwi ar wyliau banc o bryd i’w gilydd.
Os ydych chi’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored, ddim yn meindio tasgau ymarferol, ac yn gwerthfawrogi gweithio gyda phobl cymaint â bywyd gwyllt, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Am fwy o fanylion ar sut i wneud cais, ewch i https://workfor.denbighshire.gov.uk/tlive_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=7576912FL1 –yna dewiswch Llangollen yn y blwch chwilio ardal
Dyddiad cau: 20 Mai 2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhun Jones – rhun.jones@denbighshire.gov.uk | 07917 000154




