Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Lansiad Loggerheads

Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu cwblhau’r gwaith gwella ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth unigryw a lles Rhuthun a’i chymunedau gwledig.

Mae’r cyllid hwn wedi’i ddyfarnu’n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hyn ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Yn dilyn cymeradwyaeth cynllunio yn 2024, mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella a chyfoethogi Parc Gwledig Loggerheads, porth i Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac un o’r safleoedd ymwelwyr prysuraf a reolir gan Gyngor Sir Ddinbych, trwy uwchraddio’r prif adeiladau ymwelwyr, creu canopi allanol gyda seddi ychwanegol a gwell mynediad i ymwelwyr, ochr yn ochr â gwaith lliniaru llifogydd y mae mawr ei angen.

Wedi’i ddarparu gan y contractwyr lleol, MWT, Waterco a Park City, a’i ddylunio gan TACP, cwblhawyd y prosiect yn gynharach eleni.

Ynghyd â’r gwaith gwella, sicrhaodd tîm y prosiect £149,000 ychwanegol i gryfhau cymwysterau cynaliadwyedd y safle ochr yn ochr â’r gwaith gwella ehangach. Mae’r cyllid wedi cefnogi gosod paneli solar a phlanhigion draenio cynaliadwy sy’n ymgorffori cynefinoedd bywyd gwyllt, tra bod opsiynau pellach ar gyfer cynllun trydan dŵr yn y dyfodol hefyd yn cael eu harchwilio. Ar ôl ei gwblhau, disgwylir i’r safle ddiwallu tua 60–70% o’i anghenion ynni trwy bŵer adnewyddadwy hunangynhyrchiedig.

Ynghyd â’r gwaith gwella, sicrhawyd cyllid allanol pellach gan y tîm prosiect i wella cynaliadwyedd y safle gan osod paneli solar, systemau draenio cynaliadwy a chynefinoedd bywyd gwyllt ar y safle. 

Roedd y digwyddiad a chynhaliwyd yn gynharach ym mis Mehefin yn gyfle i arddangos y cynllun lliniaru llifogydd yn ogystal â’r ganolfan ymwelwyr ar ei newydd wedd gyda chaffi, ystafell gyfarfod, ardaloedd awyr agored a thoiledau cyhoeddus.

Mwynhaodd y rhai a fynychodd y lansiad daith dywys o amgylch y safle a the prynhawn wedi’i ddarparu gan y gweithredwr newydd yng nghaffi Tŷ’r Felin.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Prif nod y gwelliannau hyn oedd cynorthwyo i reoli’r pwysau sy’n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ymateb i ddisgwyliadau cynyddol ymwelwyr.

“Roedd y prosiect ym Mharc Gwledig Loggerheads yn sylweddol ac roedd yn wych gweld y gwaith bellach wedi’i gwblhau ar y safle.

“Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel y rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”