Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Adroddiad Blynyddol Ffermio Bro 2025/26

Mae Ffermio Bro wedi llwyddo’n ysgubol ers ei gyhoeddi ym mis Mai 2025, gyda bron i bob ceiniog o gyllid cyfalaf a oedd ar gael wedi’i ddyrannu ar draws Parciau a Thirweddau Cenedlaethol Cymru.

Mae ffermwyr ar draws y Tirweddau Dynodedig wedi cyflwyno cannoedd o geisiadau ar gyfer prosiectau Ffermio Bro, gyda’r galw ymhell uwchlaw’r cyllidebau sydd ar gael. At ei gilydd, dyrannwyd £1.52m i weithgareddau sydd bellach yn cefnogi byd natur ac ecosystemau ar draws y Tirweddau Dynodedig.

Ar draws Cymru yn 2025/26 ariannodd Ffermio Bro:

  • 84 o brosiectau ar draws 200 o ffermydd
  • Y gwaith o greu neu adfer 43.6km o wrychoedd ac waliau cerrig
  • Y gwaith o blannu 83,362 o goed
  • Y gwaith o greu neu adfer 94km o goetiroedd
  • Gwaith i warchod a gwella 21km o ddyfrffyrdd
  • Y gwaith o greu 47 o byllau

Cliciwch ar y llun isod i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2025/26 yn ei gyfanrwydd.

Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau 2026/27. Os oes gennych ddiddordeb dilynnwch y ddolen ar gyfer cwblhau Ffurflen Datgan Diddordeb.