Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Buchod wedi dychwelyd i Foel Famau

Mae’r gweithwyr cadwraeth cynefinoedd gorau yn y busnes yn ôl ar frig brysuraf y Bryniau Clwyd.

Pic-a-mŵ – dwy Belted Galloway yn ymlacio yn y grug ar Foel Famau

Nid oes gan y gwartheg gwych yma gradd Gwyddoniaeth Amgylcheddol ond yr hyn sydd ar goll o ran addysg maen nhw’n wneud iawn amdano gyda brwdfrydedd bywiog amdan gadwraeth ein cynefin rhostir. Felly, sut maen nhw’n ei wneud? Gan wneud beth maen nhw’n wneud y gorau – bwydo trwy’r planhigion a choed bach sydd yn tyfu ar ei darn o gynefin rhostir hyfryd, i gadw yn y cyflwr gorau fel y gall rhywogaethau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol dal i ddefnyddio a ffynnu ynddo. Maen nhw’n frîd traddodiadol Prydeinig o’r enw Belted Galloway, sydd wedi bod yn pori ar y math yma o dirwedd dros ganrifoedd. Felly, maen nhw’n gallu ymdopi efo’r tywydd garw’r bryniau a’r pori cras sydd ar gael nag bridiau arall sydd ddim mor wydn. Mae eu carnau hefyd yn helpu i dorri llystyfiant trwchus a rheoli gorchydd prysgdir, yn helpu i greu micro-cynefinoedd bach er budd bywyd gwyllt.

Mae’r buchod yma yn rhan o’r gwaith partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Dirwedd Genedlaethol, yn defnyddio dulliau traddodiadol i reoli’r dirwedd rydym yn gofalu amdano. Mae’r dull yma yn cael ei galw’n pori cadwraethol, yn defnyddio anifeiliaid sy’n pori i gadw’r cynefinoedd o bwysigrwydd hanfodol sydd o’n gwmpas am y defnydd parhaus rhywogaethau sy’n dibynnu arnynt. Yn yr ardal yma mae hyn yn cynnwys grugieir du, troellwr nos, ehedydd a fwy.  

Grugieir Du (Tetrao tetrix), un o’r adar sy’n dirywio’r cyflymaf yn y DU

Fel y crybwyllwyd uchod, un o’r rhywogaethau sydd yn fuddiol o’r gwaith y gwartheg yw’r Rugiar Ddu, dyma pam yr enw’r gorlan y gwartheg yw “Coedwig y Grugieir”. Mae hyn yw’r rhywogaeth adar efo’r niferoedd sydd yn gostwng y cyflymaf yn y DU ac sydd yn barod wedi diflannu o’r ardaloedd yn Lloegr lle’r oeddent yn byw gynt. Maen nhw’n adar hardd iawn sydd yn creu arddangosfa hyfryd fel rhan o’u defod paru – bydd y gwrywod yn dod i’r amlwg yn yr oriau man i ddawnsio ac arddangos eu plu cynffon gwyn disglair i ddenu benywod mewn arddangosfa a elwir yn “lekking” yn Saesneg. Mae angen mannau agored arnynt am yr arddangosfa yma ond mae hefyd angen mannau i guddio a nythu sydd efo fwy o orchudd am ddiogelwch. Mae’r gwaith cadwraeth gan ein cadwraethwyr pedair-goes i gadw’r mosaig o fflora a ffawna o’u cwmpas, sydd yn atal planhigion rhag tyfu’n rhy dal neu’n rhy lydan, yn helpu cadw’r cartref a hefyd y llwyfan y Rugiar Ddu – gwaith sydd yn hollbwysig i rywogaeth sydd yn dirywio yn bennaf oherwydd colled cynefinoedd. Rydym wedi gweld effaith gwaith y buchod i helpu’r Rugiar Ddu yn ystod ein cyfrif Grugiar Ddu flynyddol, efo niferoedd yr adar yn cynyddu yn yr ardal.

Felly, os ydych yn cerdded i fyny Moel Famau ac yn clywed “mŵ”, gwybyddwch mai dyma’r sain cadwraethwyr hapus yn gweithio’n galed, yn bwyta’r llystyfiant sy’n goresgyn er mwyn amddiffyn rhywogaethau pwysig yn ein tirwedd.

Swyddog Cynefin, Brian, yn gweithio’n galed yn goruchwylio’r gwaith pori ei gydweithwyr.