Brogarwch yn ffynnu yn yr AHNE yn ystod cyfnodau anodd

Brogarwch yn ffynnu yn yr AHNE yn ystod cyfnodau anodd

Yn ystod y cyfnod clo mae siopau lleol a thafarndai ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn rhaff achub hanfodol ac yn ffynhonnell cymorth i’w cymunedau. Mae busnesau a gwirfoddolwyr wedi camu i’r adwy i ddarparu gwasanaethau siopa a danfon i’r cartref, gwasanaethau casglu presgripsiwn a gwasanaethau banc bwyd. Mae ychydig o fusnesau arloesol yn Llangollen wedi bod yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau danfon ar y cyd ac mae un gymuned wedi cyflwyno cynllun hamper bwyd cymunedol i helpu’r rheiny sydd efallai yn ei chael hi’n anodd yn ariannol. Mae rhai cymunedau hefyd wedi cynnal dathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ar garreg y drws ac yn rhithwir i sicrhau bod y garreg filltir hon yn cael ei chofio.

Gan fod tafarndai ar gau yn sgil Covid-19, mae rhai o dafarndai’r AHNE wedi arallgyfeirio a chynnig gwasanaeth tecawê i drigolion lleol, sydd wedi sicrhau bod gan bawb fynediad at brydau bwyd ffres heb orfod mynd i siopa. Mae hyn hefyd yn ffordd i bobl gefnogi tafarndai lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Dyma ychydig o fusnesau sydd wedi bod yn cefnogi eu cymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwn – diolch yn fawr iawn i chi i gyd!

Canolfan Ni, Corwen, Siop Cymunedol Cilcain, Dee Valley Produce, Gales of Llangollen, Siop Cymunedol Llandegla, Llangollen Zero Waste and Food Share Project, Porters Delicatessen, The Cross Foxes Nannerch, The Crown Hotel Llandegla, The Raven Inn Llanarmon yn IâI, The White Horse Cilcain.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?