Y diweddaraf am Coronafeirws
Y diweddaraf am Coronafeirws
Cyfyngiadau’r Coronafeirws yng Nghymru – Diweddariad AHNE 08/01/2021
Rydym yn pryderu ynghylch y nifer o bobl sy’n dal i deithio i’n safleoedd er gwaethaf y cyfyngiadau cloi lefel rhybudd 4 sydd ar waith yng Nghymru, ac felly rydym wedi cymryd camau i gau’r meysydd parcio yn Foel Famau, Loggerheads a Maes Llantysilio (Rhaeadr y Bedol). Mae’r ffordd i Moel Famau rhwng Tafarn y Gelyn a Llanbedr DC hefyd yn parhau ar gau.
Os gwelwch yn dda dylid ymarfer corff o’ch cartref tra bo’r cyfyngiadau aros gartref yn eu lle a pheidiwch â gyrru i fannau harddwch yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd hyn yn helpu i atal y firws rhag lledaenu ac amddiffyn ein GIG, ein cymunedau, staff a gwasanaethau brys.
Oeddech chi’n gwybod?
- Mae meysydd parcio Moel Famau, Loggerheads a Maes Llantysilio ar gau ar hyn o bryd
- Mae Canolfan Ymwelwyr Loggerheads yn awr ar gau
- Mae Ystafell De ym Mhlas Newydd yn awr ar gau
Mae Cymru’n parhau i fod dan gyfyngiadau clo lefel rhybudd 4 er mwyn lleihau lledaeniad Coronafeirws ac aethom i gyfnod clo ar yr 20fed Rhagfyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r canllawiau canlynol, ewch i’w gwefan i gael rhagor o fanylion.
Mae’r ffilm hon yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd i bobl yng nghefn gwlad ar hyn o bryd.