Cymerwch Gam yn ôl Mewn Amser

Cymerwch Gam yn ôl Mewn Amser

Ydych chi erioed wedi ystyried sut brofiad fyddai ymweld â Chastell Dinas Brân yn y bedwaredd ganrif ar ddeg neu weld yr olygfa o Drefor o’r awyr ym 1795?

Mae tîm Ein Tirlun Darluniadwy wedi comisiynu ‘Hanes Bywluniedig Dyffryn Dyfrdwy’, ffilm brydferth a llawn gwybodaeth sy’n dangos holl ehangder Dyffryn Dyfrdwy. Mae’n dangos y newidiadau i’r tirwedd dros y blynyddoedd, gan ddangos y newid o fugeiliol i ddinesig dros y canrifoedd gyda dyfodiad diwydiant i’r ardal, y gamlas a ffordd yr A5 a oedd yn agor Dyffryn Dyfrdwy i dwristiaid. Mae cyfres o ffilmiau byrrach yn dangos tirweddau penodol Llangollen, Trefor a Chastell Dinas Brân hefyd ar gael ar dudalen Vimeo AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Ochr yn ochr â’r ffilmiau animeiddiad, mae cyfres gyffrous o ffilmiau Rhith-Wirionedd (VR) wedi cael eu cynhyrchu gyda’r nod o anfon gwylwyr yn ôl i ganrifoedd y gorffennol a lleoliadau o amgylch Dyffryn Dyfrdwy. Trwy sgrolio o amgylch a rhyngweithio â’r fideo, gall y gwyliwr ymgolli yn lleoliad Castell Dinas Brân yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r Cyfnod Fictoraidd, adeiladu Traphont Ddŵr Pontcysyllte ym 1795, Abaty Glyn y Groes yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a Phlas Newydd gyda Merched Llangollen ym 1805. Gellir gweld y ffilmiau 360 yma.

Oeddech chi’n gwybod?

Os hoffech brofi potensial llawn y ffilmiau hyn, bydd tîm Ein Tirlun Darluniadwy yn mynd â phensetiau VR gyda nhw i ddigwyddiadau yn y dyfodol er mwyn i’r cyhoedd allu gweld y tirweddau hanesyddol. Gallwch weld ein digwyddiadau nesaf yma.

Efallai y gwelwch y codau QR sydd wedi cael eu gosod ger lleoliad pob fideo, gan ganiatáu i ymwelwyr ymgolli yn hanes y tirwedd yn defnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?