Drosi Bikes

Drosi Bikes

  • Drosi Bikes

Mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn falch iawn o gefnogi menter newydd, gyffrous Cwmni Buddiannau Cymunedol Drosi Bikes.
Mae CBC Drosi Bikes yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth yn y gymuned feicio, a chynnig datrysiadau hygyrch i newid hinsawdd. Maent yn gwneud hyn drwy ddarparu mynediad at addysg, cefnogaeth ac offer beicio er mwyn grymuso rhagor o bobl i ddewis y beic yn hytrach na’r car ar gyfer siwrneiau bob dydd.
Ymhlith pethau eraill, mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy wedi cefnogi Drosi Bikes i sefydlu Gweithdy Beiciau Cymunedol yn Llangollen. Mae’r gweithdy’n bwriadu:
● hyrwyddo beiciau ac e-feiciau fel opsiwn teithio cynaliadwy, rhad, a bach ei effaith
● hyrwyddo economi gylchol, a lleihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi
● uwchsgilio, addysgu a grymuso grwpiau a dangynrychiolir
● creu cymuned feicio gynhwysol a hygyrch gan annog pobl i archwilio’u hardal leol ac ymwneud â hi

Mae gan y Gweithdy Beiciau Cymunedol yr holl offer a’r holl wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni’r ddau brif bwrpas: trwsio, ailgylchu a storio hen feiciau, a chynnal gweithdai i aelodau o’r gymuned leol er mwyn iddynt allu dysgu am gynnal a chadw beiciau a’r economi gylchol drwy ddefnyddio offer ac arbenigedd i gynnal a chadw eu beiciau drwy fynediad at wybodaeth a chyfleoedd gwirfoddoli. Yn ychwanegol at hyn, bydd y gweithdy’n cael ei ddefnyddio i gynnal dosbarthiadau hyfforddiant beicio, a bydd gofod bychan ar gael hefyd i hyrwyddo mentrau cymunedol eraill, a rhai sy’n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth amgylcheddol yn benodol.
Bydd gan Drosi Bikes raglen allgymorth hefyd, fydd yn cynnal gweithdai trwsio beiciau (Doctor Beic) mewn trefi a phentrefi ar draws Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a thu hwnt. Cynhaliwyd gweithdy cyntaf Doctor Beic yn Eryrys yn ddiweddar. Mae’r gweithdai hyn yn gyfle gwych i hyrwyddo beiciau ac e-feiciau fel dull teithio bach ei effaith.
Er mwyn dilyn gwaith da Drosi Bikes, dilynwch nhw:
Gwefan: www.drosibikes.org
Facebook: @drosibikes

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?