Gwella Porth Eglwys Sant Pedr

Gwella Porth Eglwys Sant Pedr

  • Llanbedr Church Gate after photo2_1
  • Giatiau Eglwys Sant Pedr Llanbedr_ St. Peter's Church Gates Llanbedr
    Giatiau Eglwys Sant Pedr Llanbedr_ St. Peter's Church Gates Llanbedr

Ddechrau’r flwyddyn cyflwynodd Cyngor Cymuned Llanbedr gais i Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i wneud gwelliannau cyfalaf i fynedfa’r fynwent.

Mae mynwent Eglwys Sant Pedr wedi bod yn fan addoli ers y drydedd ganrif ar ddeg ac mae’n safle rhestredig gradd II. Daeth y gwasanaethau eglwys i ben yn 1865 a chafodd ei datgysegru yn 1991, a gadawyd y fynwent i ddychwelyd i fyd natur.

Fel rhan o strategaeth hirdymor y cyngor cymuned i ddatblygu mannau agored cynaliadwy, yn 2019 cymerodd y cyngor gostau cynnal a chadw’r fynwent drosodd ac maen nhw rŵan yn gweithio mewn partneriaeth â’r Eglwys yng Nghymru a fydd, yn y pen draw, yn rhoi’r fynwent i’r gymuned ar ôl iddyn nhw gwblhau cyfres o waith gwella cytunedig.

Meddai Steve Williams, Ceidwad yn yr AHNE sydd wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp: “Mae’n braf cefnogi un o gymunedau’r AHNE i warchod a gwella nodweddion arbennig a chymeriad unigryw’r tirlun hardd hwn”.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?