Cynllunio

Cynllunio

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cael eu hystyried yn rhai o dirweddau mwyaf gwerthfawr Prydain. Ynghyd â’r Parciau Cenedlaethol maent yn cynrychioli ein hardaloedd gorau o gefn gwlad.

Fe wawriodd cyfnod newydd i’r ardaloedd hyn pan sefydlodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 fframwaith newydd ar gyfer eu rheoli a’u diogelu.

Cyhoeddi Cynllun Rheoli ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw’r strategaeth 5 mlynedd trosfwaol gyntaf ar gyfer yr AHNE. Mae’n dod â rhinweddau a nodweddion arbennig Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ynghyd ac yn eu huno gyda set unigol o amcanion. Mae’n adnabod y nodweddion hynny ar draws yr AHNE sy’n gwneud y dirwedd yn arbennig, o gynefinoedd bywyd gwyllt pwysig yn genedlaethol i gofebau hanesyddol ac mae’n gosod agenda clir ar gyfer buddsoddi ynddynt.

Dim ond trwy ymgysylltu gyda phawb sy’n ymwneud â’r ardal, y cymunedau lleol, ffermwyr, tirfeddianwyr, ymwelwyr a chyrff cyhoeddus, yr ydym wedi gallu cytuno ar weledigaeth ar gyfer dyfodol yr AHNE.

Ond mae’r cynllun pum mlynedd manwl hwn hefyd yn cydnabod fod y dirwedd yr un mor ddyledus i’r cymunedau sy’n byw, gweithio ac yn mwynhau amser hamdden yn yr ardal ag ydyw i’w nodweddion ffisegol.

Oeddech chi’n gwybod?

Fe ymgynghorir â’r AHNE ar dros 200 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn.

A ydw i tu fewn neu tu allan i’r AHNE?

Mae’r amgylchedd adeiledig yn un o nodweddion arbennig yr AHNE ac mae’n cyfrannu tuag at gymeriad ac ymddangosiad yr ardal. Mae yna bwysau am ddatblygiadau newydd yn yr AHNE a’r ardal gyfagos oherwydd bod yr ardal yn lle atyniadol i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Ond mae angen gofal arbennig er mwyn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad newydd yn cyd-fynd yn dda â’r dirwedd. Os ydych yn ystyried cyflwyno cais cynllunio am ddatblygiadau neu welliannau i’ch cartref neu fan gwaith, mae angen i chi wybod a fydd eich prosiect yn effeithio ar yr AHNE a phwy y dylech gysylltu â nhw.

Defnyddiwch eich Map Cynllunio isod i ganfod a yw eich prosiect yn gorwedd o fewn ffin AHNE, ond peidiwch ag anghofio y gall datblygiadau y tu allan i’r AHNE effeithio ar y dirwedd werthfawr hon hefyd. Mae yna dri Awdurdod Cynllunio Lleol yn ymwneud â’r AHNE – Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam – ac mae’r map hefyd yn dangos ym mha ardal rydych chi.

Mae gan bob awdurdod cynllunio Gynllun Datblygu Lleol sy’n gosod y polisïau cynllunio a chynigion ar gyfer eu hardal, gan gynnwys yr AHNE. Maent hefyd wedi paratoi Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol AHNE mewn partneriaeth â’r AHNE. Fe fydd y dolenni isod yn mynd â chi i’r gwefannau ar gyfer pob un o’r awdurdodau cynllunio lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach.

Er nad yr AHNE yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal, fe ymgynghorir â ni ar geisiadau cynllunio a chynlluniau a chynigion datblygu a fydd yn effeithio ar yr dirwedd a ddiogelir.

 

Ein Cynlluniau a’n Strategaethau

Rhan Un – Strategaeth Cynllun Rheoli’r AHNE 2014 – 2019

Mae’r cynllun rheoli hwn ar gyfer pawb sydd â diddordeb ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac mae wedi ei baratoi gan Uned yr AHNE mewn cydweithrediad agos gyda phartneriaid allweddol a budd-ddeiliaid, gan gynnwys tirfeddianwyr a gwarcheidwaid nodweddion allweddol. Mae’n gynllun ar gyfer yr AHNE, ei chymunedau, busnesau, ymwelwyr a sefydliadau a bydd angen i bawb sydd â diddordeb yn yr AHNE gydweithio i gyflawni ei ddyheadau. Bydd yn sicrhau fod dibenion yr AHNE yn cael eu cyflawni tra’n cyfrannu at nodau ac amcanion strategaethau eraill ar gyfer yr ardal.

Rhan Dau – Adroddiad Cyflwr yr AHNE – 2014 – 2019

Adroddiad ar Nodweddion a Rhinweddau Arbennig yr AHNE.

Rhan Tri – Cynllun Gweithredu 2014 – 2019

Cynllun Gweithredu ar gyfer AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – 2014 – 2019

Nodyn Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yr AHNE

Mae’r tri awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â’r AHNE – Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam – wedi paratoi ac wedi mabwysiadu Nodyn Canllawiau Cynllunio Atodol yr AHNE (CCA) mewn partneriaeth â’r AHNE. Mae’r ddogfen hon yn darparu cyngor manwl ar gyfer darpar ddatblygwyr, swyddogion cynllunio ac eraill ynglŷn â sut i gynnal datblygiad yn llwyddiannus o fewn ac o amgylch yr AHNE heb niweidio rhinweddau arbennig yr ardal. Mae’r CCA yn ystyriaeth bwysig wrth bennu ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.

Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae’r strategaeth yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu twristiaeth gynaliadwy yn yr AHNE – gan ystyried yn llawn yr angen i warchod amgylchedd arbennig yr ardal a’i threftadaeth a chynnal ansawdd bywyd cymunedau lleol.

Cynllunio ar Gyfer Awyr Dywyll y Nos

Bwriad ‘Cynllunio ar gyfer awyr dywyll y nos’ yw darparu Canllaw Cynllunio Atodol yn ychwanegol at bolisïau’r Cynlluniau Datblygu sy’n ceisio gwarchod a gwella’r AHNE a darparu lleoedd nodedig a naturiol. Mae’r Canllaw hwn ar gyfer unigolion sy’n cyflwyno cynigion ar gyfer datblygiadau newydd a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau wrth reoli’r AHNE. Mae’n nodi canllawiau dylunio
goleuo i warchod awyr dywyll y nos yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae’r Canllaw yn galluogi datblygwyr a chynllunwyr i ddylunio, cyflwyno ac asesu cynlluniau goleuo sy’n briodol i’r dirwedd, pa un a oes angen caniatâd cynllunio neu beidio.

Defnyddio’r map

Closiwch at leoliad eich prosiect arfaethedig a rhowch glic dwbl ar y map yn y lle cywir. Bydd ffenestr yn ymddangos a fydd yn rhoi gwybod i chi os yw eich prosiect o fewn yr AHNE neu os oes angen i chi gysylltu â’r awdurdod cynllunio lleol. I ailosod y map, cliciwch ar yr X yn y tab canlyniadau chwilio.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?