Rhaglen Natur er Budd Iechyd

Rhaglen Natur er Budd Iechyd

  • Ceidwaid Ifanc yn coginio dros dân / Young Rangers cooking on a fire
    Ceidwaid Ifanc yn coginio dros dân / Young Rangers cooking on a fire
  • artwork with felt
    Felting artwork
  • Community scything course at Corwen community garden and orchard, Volunteers helped scyth the orchard,
  • Community scything course at Corwen community garden and orchard, Volunteers helped scyth the orchard,

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect gydweithredol sy’n ymgysylltu gydag unigolion a chymunedau i hyrwyddo’r rôl y mae mynediad at natur yn ei chael ar wella iechyd a lles.

Mae’r rhaglen yn croesawu pobl o bob gallu i gymryd rhan mewn cadwraeth a gweithgareddau awyr agored iach ar garreg eu drws.

Rydym eisoes yn gwybod bod treulio amser yn yr awyr agored yn fuddiol, ac mae defnydd mannau agored gwyrdd yn cynyddu, gan amlygu gymaint rydym yn eu gwerthfawrogi ac yn dibynnu arnynt. Mae Natur er Budd Iechyd yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n helpu i greu arferion gweithgarwch corfforol, gan ddefnyddio ein hadnoddau naturiol, ac er mwyn i bawb barhau i elwa ar yr effaith gadarnhaol y mae mannau gwyrdd yn eu cael ar straen, gorbryder, a’n hysbryd yn gyffredinol.

Mae ymarfer corff, wedi’i gyfuno gyda mynediad at fannau gwyrdd, yn ddull nad yw’n ffarmacolegol a argymhellir, a all helpu gydag adferiad yn dilyn salwch, ac mae’n cael ei gysylltu â gostyngiad i lefelau iselder, gorbryder, blinder, ac ansawdd bywyd gwell ymysg plant ac oedolion.

Mae treulio amser yn yr awyr agored yn gallu helpu i reoli cyflyrau cronig megis gordewdra, diabetes math 2, iechyd meddwl, unigedd ac unigrwydd gan gynnig manteision i ddinasyddion yn gorfforol gan leihau lefelau risg o glefyd cardiofasgwlaidd drwy gynnal ffordd o fyw sy’n iach ac egnïol. Mae gweithgareddau Natur er Budd Iechyd yn cynnig cyfnodau byr o symudiad sy’n cael eu hargymell i gynyddu gweithgarwch corfforol.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Natur er Budd Iechyd yn galluogi cyfranogwyr i:
• Gynyddu faint o amser y maent yn ei dreulio yn yr awyr agored
• Cwrdd â phobl,
• Gwella iechyd a ffitrwydd,
• Cymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth ar gyfer pob gallu

Mewn ymdrechion parhaus i wella lles cymunedol, rydym wedi bod yn annog pobl i sylwi ar ‘3 pheth da’ pan maent yn treulio amser yn yr awyr agored, a hefyd wedi gosod seddi arsylwi sy’n lledorwedd wrth i waith ymchwil awgrymu bod cysylltu â natur wedi dangos cynnydd i ymddygiad o blaid cadwraeth, ynghyd ag effeithiau cadarnhaol ar iechyd a lles hapusrwydd o’i gymharu ag amser a dreuliwyd ymysg byd natur.

Gydag amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnig i ddysgu sgiliau traddodiadol megis gwehyddu helyg, pladuro a gosod gwrychoedd, rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau prosiect i ddarparu gweithgareddau celf ym myd natur. Mae ein Rhaglen Natur er Budd Iechyd i’w chanfod yn yr adran lawrlwythiadau defnyddiol ar waelod y dudalen.

Gall gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a sefydliadau eraill atgyfeirio defnyddwyr gwasanaeth drwy lwybrau presgripsiynu cymdeithasol. Mae ein ffurflenni atgyfeirio a chofrestru i’w chanfod yn yr adran lawrlwythiadau defnyddiol ar waelod y dudalen.
I ganfod rhagor, cysylltwch â naturerbuddiechyd@sirddinbych.gov.uk

 

 

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?