Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Sefydlwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru. Mae’n darparu grantiau ar gyfer prosiectau amgylcheddol arloesol, cynaliadwy sy’n cynnwys cymunedau ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r gronfa eisiau i ni brofi ffyrdd o gyflawni ffordd fwy cynaliadwy o fyw mewn cefn gwlad o harddwch ac amrywiaeth naturiol wych. Ond ar yr un pryd, mae am i’n cymunedau aros yn gymdeithasol iach ac yn economaidd hyfyw.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cynnig grantiau prosiect, grantiau rheoli i gwrdd â chostau staff a grantiau datblygu i hybu camau gweithredu neu bartneriaethau newydd.

Mae fel arfer yn darparu 50% o gyfanswm costau prosiectau, ond mae hyd at 75% ar gael ar gyfer prosiectau sector gwirfoddol cymwys. Disgwylir i ymgeiswyr gyfrannu o leiaf 25% o gyfanswm costau’r prosiect naill ai o’u cronfeydd wrth gefn eu hunain neu o ffynonellau eraill fel cronfeydd Ewropeaidd, cyllid y Loteri Genedlaethol neu gyfraniadau “mewn nwyddau”.

Gall nifer o bobl wahanol wneud cais am gyllid:

  • grwpiau cymunedol, gwirfoddol a phartneriaeth
  • cynghorau cymuned
  • awdurdodau lleol
  • unigolion a sefydliadau sector preifat (ar gyfer prosiectau er budd y cyhoedd)

Mae’r gronfa yn cefnogi prosiectau sy’n:

  • cynnal a gwella harddwch naturiol yr AHNE, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig
  • hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd
  • hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol
  • hyrwyddo mwynhad tawel o’r AHNE

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n:

  • cynnwys cymunedau lleol a phobl ifanc
  • ysgogi cyfraniadau gan ffynonellau eraill, mewn arian parod neu mewn nwyddau
  • goresgyn rhwystrau i gynaliadwyedd a hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o gynaliadwyedd
  • hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd neu ychwanegu gwerth at brosiectau cynaliadwyedd sy’n bodoli eisoes
  • codi ymwybyddiaeth o’r AHNE a chynhyrchu swyddi neu incwm i gymunedau, heb niweidio’r dirwedd
  • dangos arloesedd neu arfer orau

Er enghraifft, prosiectau cynaliadwy mewn ysgolion, fel rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt neu fentrau ynni, gwastraff a lleihau traffig; prosiectau cludiant cynaliadwy i leihau ein defnydd o geir ac i wella iechyd; prosiectau gwella mannau agored mewn pentrefi at ddefnydd lleol a bywyd gwyllt; gwaith adfer nodweddion hanesyddol fel pwll pentref, perllan gymunedol neu ffiniau traddodiadol; rhaglenni hyfforddiant i warchod sgiliau traddodiadol fel plygu gwrych, codi waliau cerrig a rheoli cadwraeth.

Hoffech chi gael gwybod mwy?

Cysylltwch â Ceri Lloyd yn Mharc Gwledig Loggerheads ar 01824 712757

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?