Prosiect Datrysiadau Tirlun

Prosiect Datrysiadau Tirlun

  • *Hebridean Sheep in Wildflower meadow
    Defaid Hebridean mewn ddôl blodau gwyllyt Hebridean Sheep in Wildflower meadow
  • *AONB Ranger-mowing a wildflower meadow
    Dolydd blodau gwyllt yn cael ei dorri gan Geidwad AHNE / AONB Ranger-mowing a wildflower meadow
  • *Carneddau Pony pulling tongues
    Merlen y carneddau yn tynnu tafod / Carneddau Pony pulling tongues
  • *Volunteers clearing invasive vegetation from the moorland
    Gwirfoddolwyr yn clirio llystyfiant ymledol o'r rhostir / Volunteers clearing invasive vegetation from the moorland

Datrysiadau Tirlun – Prosiect Pori Cyfoeth Naturiol

Datrysiadau Tirlun – Mae Prosiect Pori Cyfoeth Naturiol wedi dechrau yng Nogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r prosiect yn bartneriaeth draws gwlad gyda 10 o sefydliadau yn bartneriaid ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru, rhai yn berchnogion tir, elusennau cadwraeth ac awdurdodau lleol. Nod y prosiect yw i gyflwyno cyfundrefn rheoli cynaliadwy i 40 o safleoedd sydd wedi gwasgaru tros Ogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd hyn yn safleoedd o bwys ecolegol gyda llawer ohonyn nhw’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ardaloedd cadwraeth arbennig, safleoedd ramsar, parciau gwledig, gwarchodfeydd natur leol neu’n dod o dan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Ddyfrdwy a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Bydd y prosiect yn ddefnyddio datrysiadau naturiol er mwyn mynd i’r afael a phroblemau sy’n wynebu rheolwyr tir, bydd y proiect yn cyflwyno dulliau mwy cynaliadwy i reoli safleoedd allweddol. Mae yna ffocws ar anifeiliaid pori gan mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol a naturiol i gynnal cynefinoedd penodol. Bydd bridiau traddodiadol o dda byw yn cael ei ddefnyddio gan gynnwys gwartheg, defaid a merlod er mwyn cynnal cynefinoedd penodol a sicrhau amrywiaeth mwy eang o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt brodorol.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae gwartheg Belted Galloway yn wych ar gyfer pori cadwriaethol. Maen’t yn dewis eu bwyd yn ofalus gan adael planhigion a rhywogaethau pwysig, tra’n cadw tyfiant eraill fel eithin i lawr.

Bydd y prosiect yn buddsoddi mewn isadeiledd fel ffensio a mynediad i’r safleoedd yn ogystal â chael gwared ar rwystrau fel prysgwydd a rhedyn, fydd hyn yn helpu i wneud yr ardaloedd yn fwy atyniadol i borwyr ddod â stoc i’r safleoedd. Mae perchnogion tir a staff y prosiect yn gweithio gyda phorwyr i ddatblygu cynlluniau pori i sicrhau ei fod o fudd i’r safle a’r cynefin amgylchynol ac i sicrhau fod y tir ddim yn cael ei bori’n ormodol neu ddim digon.

Rhan allweddol arall yw i ymrwymo â chymunedau lleol i roi cyfleoedd i bobl wirfoddoli mewn cadwraeth a lles anifeiliaid. Bydd yna gyfleoedd i ysgolion a grwpiau cymuned i gymryd rhan drwy ofalu a chadw golwg ar stoc. Darperir hyfforddiant lles anifeiliaid i’r gwirfoddolwyr ac grwpiau ysgol i geisio leihau’r bwlch mewn sgiliau yn y sector ffermio a chadwraeth a gobeithio creu llwybrau i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol mewn i gyflogaeth.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gynnal gan Ardal o Hardwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?