Pori Cadwraeth

Pori Cadwraeth

  • *Volunteers managing the moorland
    Gwirfoddolwyr yn rheoli'r rhostir / Volunteers managing the moorland
  • *Grey Carneddau pony
    Merlen lwyd y- -Grey-Carneddau-pony
  • *Orchid
    Tegeirian / Orchid
  • *Heather cutting Moel Famau
    Tori grug ar Moel Famau / Heather cutting Moel Famau

Pori cadwraeth – ble mae anifeiliaid da byw yn cael eu defnyddio i reoli safleoedd er mwyn cynnyddu bywyd gwyllt yn yr ardal ac hyrwyddo bioamrywiaeth. Mae pori cadwraeth yn cael ei ddefnyddio ar nifer o wahanol diroedd, er engraifft coetir, prysgwydd, tiroedd gwlyb a glaswelltir. Mae da byw wedi llunio ein tirwedd ers cenedlaethau bellach, ac dyma’r ffordd fywaf effeithiol a chynaliadwy o reoli ein cynefinoedd. Mae’n bwysig bod y math cywir o anifeiliaid yn cael eu ddefnyddio ar y tiroedd hyn, yn gyffredinol bydd gwartheg, defaid a merlod yn cael eu defnyddio. Fel rheol byddant yn frid brodorol wedi cael eu magu i fod yn galed i fyw ar diroedd uwch ble mae lefel y glaswellt o ansawdd is o gymharu a diroedd isel. Byddant yn bwyta y rhywogaethau o blanhigion amlycaf, mae hyn yn caniatau cyfleoedd i amrywiaeth eang o rywogaethau eraill i gael sefydlu. Drwy ddefnyddio gwartheg a merlod mae’n achosi aflonyddwch tir oherwydd eu pwysau, mae hyn yn darparu cynefinoedd ar gyfer ymlusgiaid ac infertebratau yn y pridd, maen’t hefyd yn creu lleoliadau i’r planhigion newydd ffynnu. Nid bwyta yn unig mae’r anifeiliaid hyn yn gwneud ond hefyd maen’t yn creu carthion!

Oeddech chi’n gwybod?

Mae tros 250 o rywogaethau o bryfed yn bodoli ar un achos o dail gwartheg mae hyn yn darparu ffynhonnell hanfodol o fwyd i adar.

Un safle sydd yn rhan or prosiect yw cae yng nhoed Nercwys, mae’n weirglodd blodau gwyllt, mae defnyddio defaid i bori yma yn anghenrheidiol. Mae’r cae yn cael ei dori ar gyfer gwair yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn wedi i’r blodau gwyllt ar gweiriach ddod i had. Wedi i’r gwair gael eu glurio bydd defaid yn cael eu rhoid yno, er mwyn pori y glaswelltir lawr yn barod i rywogaethau blodau yn y gwanwyn. Ni fydd y defaid yn pori yno trwyr gaeaf er mwyn osgoi unrhyw ddifrod ir tir.

Mae defaid yn borwyr detholus, maen’t yn gallu bwyta llysdyfiant yn agos iawn ir ddaear. Ar hyn o bryd mae yna ddefaid mynydd Cymreig yn pori ar rhai or safloeodd y prosiect. Bridiau eraill sy’n cael eu defnyddio yw defaid Jacob ac Hebridean, mae’r ddau frid yma yn fridiau brodorol, caled bydd eu cyrn yn help iddyn nhw symud drwy mieri a rhedyn.

Mae gwartheg yn pori glaswelltiroedd hir i greu safleoedd moel a manau agored. Mae’r glaswelltir hwn yn darparu tir agored i adar hirgoes fwydo. Yn wahanol i ddefaid, mae gwartheg yn defnyddio eu tafodau er mwyn tynnu llysdyfiant allan or ddaear. Byddant yn bwyta llwyni ac eithin llymach yn ogystal a glaswellt. Ar hyn o bryd mae gwartheg Belted Galloways ar rhai o safleoedd y project, mae’r brid hwn o wartheg yn cael eu defnyddio yn amal ar gyfer pori cadwraeth ar draws y wlad. Maen’t yn frid eithaf bychan ac felly yn lleihau y difrod ar y ddaear.

Y merlod sy’n cael eu defnyddio ar gyfer pori cadwriaeth yn y prosiect hwn yw merlod y Carneddau. Maen’t ychydig yn llai na’r ferlen fynydd gymreig adran A, mae ganddyn’t gorff bach cadarn a chlustiau bach. Mae merlod y Carneddau wedi arfer byw allan ar diroedd uchel dros 3,000 o droedfeddi gyda chlogwyni, llethrau creigiog a llynoedd. Felly maen’t yn frid caled iawn. Maen’t yn bwyta rhuthur meddal, Molina, eithin a glaswelltau mynydd. Drwy bori y tir maen’t yn cadw tyfiant rhedyn ac eithin o dan reolaeth, mae hyn yn rhoi cyfloeodd i blanhigion a rhywogaethau eraill dyfu. Mae merlod hefyd yn pori yn agos ir ddaear ac yn creu gwardrobau lle na fyddant yn pori. Mae hyn yn creu amrywiaeth strwythurol ofewn y glaswelltir.

Mae bridiau brodorol a phrin yn cael llai o broblemau iechyd o’u cymharu a bridiau masnachol felly, tra’n rheoli cadwraeth, mae’n fonws mawr cael anifeiliaid sydd a llai o waith cynal a chadw arnynt.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2021 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?