Defaid i Bryn Prestatyn

Defaid i Bryn Prestatyn

Ar ddydd Mawrth 23 Ionawr 2023, byddwn yn cyflwyno diadell o ddefaid i Fryn Prestatyn i helpu i gynnal yr amrywiaeth o flodau a bywyd gwyllt sy’n rhoi ei gymeriad arbennig i’r safle.

Bydd y defaid ar y safle am ddau fis ac yn pori ar un darn yn unig ar y tro. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn cyfyngu ar fynediad, ond gofynnwn am i gŵn gael eu cadw dan reolaeth dynn wrth fynd drwy’r darn â’r defaid ynddo.

Ein nod yma yw cefnogi’r nifer fawr o flodau a bywyd gwyllt ar y safle. Bydd y defaid yn ein helpu i gyflawni hyn drwy gael gwared ar y llystyfiant trwchus ac agor y glastir yn yr hydref/gaeaf gan ganiatáu i blanhigion blodeuol llai ffynnu erbyn yr haf.

Mae’r defaid sy’n dod yn frîd gwydn sydd wedi arfer â phori ar dir uchel ac yn gallu goroesi y tu allan mewn tywydd eithafol, cyn belled eu bod yn cael llonydd maent yn hapus yn pori. Mae defnyddio defaid i bori yn ein galluogi i reoli’r safle’n fwy cynaliadwy a lleihau’r angen i ddefnyddio peiriannau ar y safle.

Diolch i chi am eich cefnogaeth. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r AHNE ar 01824 712757

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?