Newid hinsawdd

Newid hinsawdd

  • Mae’r afon Dyfrdwy a’r bryniau a choetiroedd | The River Dee and wooded hillsides
    Mae’r afon Dyfrdwy a’r bryniau a choetiroedd | The River Dee and wooded hillsides.

Newid hinsawdd, Isadeiledd Gwyrdd a Rheoli Llifogydd Naturiol

Mae newid hinsawdd yn dechrau effeithio arnom ni gyd ac mae’r effaith yn fwy gweladwy o ddydd i ddydd. Ochr yn ochr â’r digwyddiadau tywydd eithafol sy’n achosi mwy o lifogydd, sychder, tonnau gwres a thanau gwyllt mae newidiadau cynnil yn digwydd ar draws AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sy’n peri perygl i rinweddau arbennig y dirwedd arbennig.

Mae gofodau gwyrdd, coed trefol ac afonydd, nentydd a llynnoedd yn ffurfio rhwydwaith gyfoethog o ‘Isadeiledd Gwyrdd’ o amgylch yr AHNE. Trwy ddiogelu, adfer ac ychwanegu at y rhwydwaith gallwn gefnogi bioamrywiaeth, iechyd a lles cymunedau lleol ac arafu llif dyfroedd llifogydd gan leihau effaith digwyddiadau llifogydd mawr.

Mae llifogydd yn effeithio ar sawl preswylydd, busnes ac ymwelydd yr AHNE ac mae’n cael effaith drychinebus ar nifer o’n cynefinoedd pwysig. Gall ymagweddau rheoli llifogydd naturiol (NFM) gynorthwyo i leihau effaith digwyddiadau llifogydd tra’n creu cynefinoedd newydd, gwella ansawdd dŵr a mynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol. Yn aml mae’r ymagweddau NFM hyn yn cynnwys dulliau syml o arafu dyfroedd er mwyn bod o fudd i’r dirwedd y mae’n teithio drwyddi (drwy hydradu da byw, cnydau a phlanhigion) tra’n lleihau effaith negyddol gormod o ddŵr ymhellach i lawr yr afonydd.

O’r dudalen hon gallwch ddysgu mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, i wella ein Hisadeiledd Gwyrdd ac i leihau effaith llifogydd drwy brosiectau Rheoli Llifogydd Naturiol ar draws yr AHNE.

Gwarchod y Dirwedd ac Adfer Byd Natur mewn Hinsawdd sy’n Newid

Hygyrch Gwarchod y Dirwedd ac Adfer Byd Natur mewn Hinsawdd sy’n Newid
Mae newid hinsawdd yn peri amrywiaeth o fygythiadau i’n Hardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a gallwn baratoi ar gyfer rhai ohonynt a’u lliniaru. Mae’r ddogfen hon yn archwilio’r AHNE fesul math o dirlun, gan nodi’r blaenoriaethau a’r heriau allweddol mae pob tirlun yn eu hwynebu cyn nodi sut gallai’r hinsawdd sy’n newid effeithio ar y dirlun, pa gamau lliniaru gallwn eu cymryd ac wedyn canolbwyntio ar y risgiau allweddol a’r addasiadau gallwn eu gwneud i leihau effaith a difrifoldeb newid hinsawdd yn yr AHNE. Mae’r ddogfen hon ar gyfer rheolwyr tir, grwpiau cymunedol, llunwyr polisïau ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nhirluniau AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Gweithio gyda Hinsawdd sy’n Newid – canllaw ar gyfer addasu yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Fe fydd patrymau tywydd newidiol a chynnydd yn lefel y môr yn cael effaith uniongyrchol ar bob rhan o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a’r ardal gyfagos. Fe allai fod yna ganlyniadau cadarnhaol a negyddol, yn dibynnu ar sut rydym yn ymateb. Mae angen i ni addasu i newid yn yr hinsawdd a mynd i’r afael â’r hyn sy’n ei achosi, tra’n gwarchod a hybu harddwch naturiol yr AHNE.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?