Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

  • Volunteers weeding out Himalayan Balsam
    Volunteers weeding out Himalayan Balsam
  • Dry Stone Walling
    Dry Stone Walling

Mae angen eich help arnom!

Mae angen eich help arnom! Yn syml, allen ni byth wneud yr holl waith sydd angen ei wneud yn gyson i gynnal a chadw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy heb help ein gwirfoddolwyr brwdfrydig ac ymroddgar.

Bob blwyddyn mae’n gwirfoddolwyr yn rhoi miloedd o oriau i wella a chynnal a chadw ein AHNE. Maen nhw’n gwneud popeth o godi waliau sych, plygu gwrychoedd a llosgi grug, i gyfri llyffantod cefnfelyn neu wrando am y grugiar ddu.

Mae gwirfoddoli yn hwyl, ond mae hefyd yn sicrhau eich bod yn cael awyr iach, rydych yn dysgu sgiliau newydd, yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd, ac yn ffordd o gyfarfod pobl newydd.

Os yw hyn yn rywbeth sydd o ddiddordeb i chi, edrychwch ar ein rhaglen gwirfoddoli er mwyn gweld os ydych chi awydd rhoi tro ar unrhyw beth sydd arni. Gallwn ddarparu hyfforddiant llawn, ac hyd yn oed os ydych am ddod i roi tro ar un o’r gweithgareddau i ddechrau, gallwch ddod i un o’n digwyddiadau.

Oeddech chi’n gwybod?

Sefydlwyd yr elusen Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn 2015 gyda chymorth y tîm AHNE er mwyn helpu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol i ddarganfod a mwynhau nodweddion arbennig yr AHNE. Bellach mae mwy na 200 o aelodau ac maent yn helpu tîm yr AHNE gyda digwyddiadau a phrosiectau, gan gynnig eu rhaglen ddigwyddiadau eu hunain a chyhoeddi cylchlythyr rheolaidd. Gallwch ddarganfod mwy yma https://friends.cymru/

Os nad yw tasgau ymarferol yn addas i chi, beth am ymuno ag un o’r grwpiau cerdded Nordig yn yr AHNE, gan ddarganfod llwybrau newydd a chyfarfod pobl newydd? Neu gallech hyd yn oed gychwyn eich grŵp cerdded eich hun a hyfforddi i ddod yn arweinydd cerdded gwirfoddol gyda ni.

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch ag
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy,
Parc Gwledig Loggerheads,
Ffôn: 01824 712757

 

Rhaglenni Gwirfoddoli

Dyffryn Dyfrdwy:

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?