Cawr Corwen

Cawr Corwen

  • *Hwyl ar Lwy - Fun on the Spoon
    Hwyl ar Lwy - Fun on the Spoon

Dewch i ddeffro’r cawr

Yn nhref hanesyddol Corwen, mae ffurf gysglyd o Drewyn y cawr. Cerddodd drwy’r dyffryn ddiwethaf ar 23 Mawrth 2019, ar ôl ymweld â’i gariad y forwyn laeth y credwn sy’n byw ar Fryncaer Caer Drewyn. Ar ôl gadael cyfres o ôl traed mewn caeau cyfagos, aeth yn ôl i gysgu. Pwy a ŵyr pryd y bydd yn cerdded eto?

Oeddech chi’n gwybod?

Mae llawer o siopau a lleoedd bwyta o amgylch Corwen i chi eu mwynhau yn ystod eich ymweliad.

Yn y gwanwyn a’r haf, bydd ei amlinelliad cysglyd yn cael ei nodi gan flodau gwyllt. Y lle gorau i’w weld yw drwy ddilyn y llwybr o’r dref drwy Goed hyfryd Pen y Pigyn i’r olygfan arbennig, mae’n sicr yn werth y dringo. Edrychwch allan am y gwrthrychau wnaeth Drewyn eu gollwng yn ystod ei daith olaf, allwch chi ddod o hyd iddynt?

Crëwyd gan yr artist Gordon Rogers gyda chymorth y gymuned leol, yn arbennig Ysgol Caer Drewyn. Ariannwyd gan Croeso Cymru ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

@WakingCorwensGiant ar Facebook neu Instagram

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?