Grantiau a Chyllid

Grantiau a Chyllid

  • Volunteers restoring a dry stone wall
    Volunteers restoring a dry stone wall
  • Dry Stone Walling
    Dry Stone Walling

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn dirlun deinamig nad yw’n elwa o aros yn llonydd. Mae angen rhyddid ar gymunedau ffyniannus a busnesau llwyddiannus i ddatblygu.

Ond rhaid i’r datblygiad fod yn gynaliadwy. Mewn geiriau eraill, rhai iddo gydbwyso ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd – er mwyn i ni allu diwallu ein hanghenion heb gyfaddawdu’r dyfodol.

Rydym am annog cymunedau, busnesau ac unigolion lleol i gynllunio a gweithredu prosiectau sy’n gwella’r ardal a chreu etifeddiaeth barhaus er mwyn i bobl fwynhau’r tirlun gwerthfawr hwn. I helpu gyda hyn, mae gennym nifer o grantiau ar waith i helpu i ariannu mentrau sy’n bodloni meini prawf gwahanol.

Oeddech chi’n gwybod?

Ein grantiau yw’r Cronfa Datblygu Cynaliadwy, Cynllun Grantiau Cefn Gwlad Cymunedol a’r Grant Menter Gwella Tirlun.

Os yw eich prosiect yn gwella’r tirlun, yn amddiffyn bywyd gwyllt mewn unrhyw ffordd, neu’n annog y gymuned leol i gymryd rhan mewn diogelu dyfodol yr AHNE, mae’n bosibl y byddwch mewn sefyllfa i wneud cais am grant neu gyllid.

Cysylltwch â’r tîm grantiau yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a gallant eich cynghori o ran p’un a fyddai eich prosiect yn cael ei ystyried ar gyfer grant, a sut i symud ymlaen.

Hoffech chi gael gwybod mwy?
Cysylltwch â Ceri Lloyd ym Mharc Gwledig Loggerheads ar 01824 712757.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?