Gweithgarwch oddi ar y Ffordd Anghyfreithlon
Gweithgarwch oddi ar y Ffordd Anghyfreithlon
-
Difrod o weithgaredd oddi ar y ffordd - Damage from off-road activity
-
Off Road Signs
Cynnydd mewn gweithgarwch oddi ar y ffordd yn ystod y cyfnod clo
Rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau am weithgarwch oddi ar y ffordd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ers dechrau’r cyfnod clo, gyda phobl yn teithio i ddefnyddio llwybrau lle ceir hawliau tramwy cyfreithiol ar gyfer cerbydau oddi ar y ffordd. Fodd bynnag, mae yna hefyd gynnydd yn nifer y damweiniau mewn mannau lle gwaherddir mynediad i gerbydau. Gall hyn achosi difrod anadferadwy i rai o’n cynefinoedd a’n bywyd gwyllt mwyaf bregus.
Ar hyn o bryd, tra bod Cymru dan gyfyngiadau clo Lefel Rhybudd 4, dydi teithio oddi ar y ffordd ar lwybrau gyda hawliau tramwy cyfreithiol ddim yn cael ei ystyried yn daith hanfodol. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn stopio ac yn rhoi dirwyon i bobl.
Os ydych chi’n gweld gweithgarwch oddi ar y ffordd a all fod yn anghyfreithlon, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu defnyddiwch y gwasanaeth sgwrsio neu’r ffurflenni ar-lein.
Oeddech chi’n gwybod?
Dydi mynd i ardaloedd lle na chaniateir mynediad i gerbydau ddim yn iawn ac mae’n gallu arwain at ddirwyon mawr a hyd yn oed atafaelu cerbydau.