Maen braf weld cymaint o bobl yn ymweld â’n cefn gwlad brydferth i fwynhau’r cyfnod anarferol hwn o dywydd poeth. Mae ein safleoedd cefn gwlad wedi bod yn brysur gyda phobl yn mwynhau natur, fodd bynnag, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa ymwelwyr i ddilyn y Cod Cefn Gwlad i amddiffyn y dirwedd werthfawr rydyn ni’n ei charu.
Ewch â’ch sbwriel adref
Cofiwch ddod â bag gyda chi a mynd â’ch sbwriel a’ch gwastraff bwyd adref, defnyddiwch finiau cyhoeddus neu ailgylchwch os yn bosibl. Mae sbwriel yn difetha harddwch cefn gwlad a gall fod yn beryglus i fywyd gwyllt a da byw. Mae gollwng sbwriel a dympio sbwriel yn droseddau troseddol.






Tanau gwyllt
Mae’r risg o danau gwyllt yn cynyddu yn ystod y cyfnod sych a phoeth hwn. Mae un wreichionen yn unig yn ddigon i gynnau tân a all ledaenu’n gyflym, gan achosi difrod dinistriol.
Mae tanau gwyllt yn bygwth nid yn unig y tirweddau hardd yr ydym i gyd yn eu gwerthfawrogi, ond hefyd y cynefinoedd cyfoethog a’r bywyd gwyllt y maent yn eu cynnal, a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn.

Diolch yn fawr
Hoffai tîm Ceidwad Dyffryn Dyfrdwy ddiolch i drigolion lleol a gwirfoddolwyr a gynorthwyodd gyda glanhau yn Rhaeadr y Bedol, Llantysilio ddydd Mawrth 26 Mai.
Yn anffodus, dioddefodd y safle sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ddiffyg parch diangen gan leiafrif o unigolion a oedd yn peri bygythiad i dda byw, bywyd gwyllt a thirwedd.




